Prif Weithredwr CGGC, Ruth Marks, sy’n sôn am y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol newydd a’r cyfle i ddod yn gynrychiolydd y sector gwirfoddol.
BETH YW’R CYNGOR PARTNERIAETH GYMDEITHASOL?
Y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol fydd y corff newydd sy’n cynghori Gweinidogion Cymru ar faterion sy’n ymwneud â phartneriaeth gymdeithasol, gwaith teg a chaffael cymdeithasol gyfrifol. Cafodd ei ddatblygu fel partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, undebau llafur a chyrff cyflogwyr sy’n gysylltiedig â’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.
Gallwch gael gwybod mwy am y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus fan hyn, a gallwch hefyd gofrestru ar gyfer cylchlythyr Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru.
BETH YW RÔL CGGC?
Cawsom ein gwahodd i fod yn rhan o’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol yn ystod y pandemig rhwng Mai 2020 a Gorffennaf 2022. Ces gyfle i fynychu cyfarfodydd yn rheolaidd ac i roi awgrymiadau ar bynciau sy’n berthnasol i rannau o’r sector lle mae’r lefelau cyflogaeth uchaf, yn enwedig o fewn iechyd a gofal cymdeithasol, addysg a thai cymdeithasol. Roeddwn hefyd yn gallu cefnogi’r cynigion i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ar gyfer y Cyngor newydd.
DOD O HYD I GYNRYCHIOLYDD Y SECTOR GWIRFODDOL
Pan fydd y Cyngor wedi’i sefydlu, bydd yn cynnwys y Prif Weinidog fel Cadeirydd, aelodau Llywodraeth Cymru a 18 o gynrychiolwyr o weithwyr a diwydiannau a sectorau gwahanol ledled Cymru. Bydd gan y sector gwirfoddol un lle ar y Cyngor, ac mae’n wirioneddol bwysig ein bod yn gallu enwebu cydweithwyr sy’n gallu cynrychioli profiadau gwahanol cyflogwyr a gweithwyr yn y sector gwirfoddol.
Drwy gyfuniad o Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector a’n rhwydweithiau a’n cysylltiadau ehangach, mae angen i ni ddod o hyd i unigolion sydd â diddordeb ac sy’n gallu bod yn rhan o’r Cyngor newydd sbon hwn.
BETH FYDD RÔL CYNRYCHIOLYDD Y SECTOR GWIRFODDOL?
Rôl y cynrychiolydd fydd mynychu cyfarfodydd a chefnogi llif dwy ffordd o wybodaeth rhwng y Cyngor a’r sector er mwyn bwydo i mewn ac i roi adborth. I fod yn aelod gweithgar o’r Cyngor, bydd angen yr amser a’r wybodaeth gefndirol i ddarllen papurau, ymgysylltu â chyflogwyr y sector gwirfoddol, ac yna ychwanegu’r profiad hwnnw i gyfarfodydd y Cyngor er mwyn sicrhau bod pob aelod yn deall y materion sydd o ddiddordeb i’n sector.
Gallai’r materion hyn gynnwys gwaith teg, y cyflog byw gwirioneddol, agweddau ar gomisiynu, cynaliadwyedd, lleisiau cyfartal ac effeithiau ar ddefnyddwyr gwasanaethau, cleientiaid a buddiolwyr elusennau.
CYMRYD RHAN
Bydd cael cynrychiolydd o’r sector gwirfoddol yn sicrhau bod llais y sector wastad yn cael ei glywed.
Fel y sefydliad sy’n gyfrifol am enwebu cynrychiolydd y sector gwirfoddol, rydym yn annog cydweithwyr sy’n gweithio yn y sector, ymddiriedolwyr gwirfoddol a gwirfoddolwyr eraill sydd â phrofiad sy’n gysylltiedig â chyflogaeth a byd gwaith, i ystyried y cyfle hwn. Ar ôl i ni gyflwyno ein henwebiadau erbyn 25 Medi 2023, caiff y penodiad ei wneud gan y Prif Weinidog.
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ystod y broses hon ac wedi trafod y cyfle gyda phartneriaid allweddol gan gynnwys Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, partneriaid Pŵer Cyfwerth Llais Cyfwerth, Cwmpas, Tai Cymunedol Cymru ac Anabledd Cymru. Rydym am sicrhau bod y rhai sy’n cael eu henwebu yn gallu cefnogi’r ystod amrywiol o gyflogwyr a gweithwyr o fewn y sector gwirfoddol.
CAMAU NESAF
Rydym yn gobeithio lledaenu’r gair am y cyfle hwn mor bell ac eang â phosib o fewn y sector gwirfoddol, felly rhannwch yr erthygl hon gyda’ch cydweithwyr, ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr a’ch rhwydweithiau ehangach.
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfle i gael eich enwebu, cysylltwch â fi yn rmarks@wcva.cymru neu ein tîm polisi yn policy@wcva.cymru i gael gwybod mwy ac i ddatgan diddordeb.
Byddwn yn casglu pob datganiad o ddiddordeb hyd at 15 Medi 2023 cyn casglu a chytuno ar restr fer o enwebeion i’w chyflwyno i’r Prif Weinidog erbyn 25 Medi 2023.