IOF Cymru Raise and Shine

‘Raise and Shine’ – wyth awgrym ar godi arian corfforaethol

Cyhoeddwyd: 05/03/20 | Categorïau: Cyllid, Awdur: Alison Pritchard

Mae ein Rheolwr Cyllido Cynaliadwy Alison Pritchard yn rhannu ei chynghorion gorau ar godi arian corfforaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol.

Yr wythnos ddiwethaf, cynhaliodd Sefydliad Codi Arian (IoF) Cymru un arall o’u digwyddiadau rhyngweithio brecwast, Raise and Shine, yng Nghaerdydd.

Roedd y digwyddiad diweddaraf hwn o Raise and Shine yn canolbwyntio ar godi arian corfforaethol, ac yn cynnwys panel o godwyr arian corfforaethol o’r Wallich, Opera Cenedlaethol Cymru a’r Gymdeithas Alzheimer a atebodd gwestiynau a rhannu eu gwybodaeth am bopeth a oedd yn ymwneud â phartneriaethau corfforaethol.

Mynychais i’r digwyddiad er mwyn cael gwybod y tueddiadau diweddaraf a chael ychydig o syniadau da i’w rhannu â’r sector ehangach.

  1. Elusen y Flwyddyn

    Pan fyddwch chi’n ceisio cyflwyno cynnig ar gyfer partneriaeth Elusen y Flwyddyn sy’n seiliedig ar bleidlais staff, cynlluniwch ymlaen llaw a chymryd eich amser i wneud cysylltiadau cychwynnol misoedd cyn y bleidlais – mae LinkedIn yn ffordd dda o ddod o hyd i gysylltiadau allweddol – a bwydwch wybodaeth iddynt yn raddol ynghylch ein mudiad a’n hachos.

  2. Dewiswch eich brwydrau

    Efallai yr hoffai elusennau ‘anneniadol’ nad ydynt yn debygol o ennill pleidlais staff gysylltu â chwmnïau ynghylch gwahanol ffyrdd o weithio gyda’n gilydd, neu beidio â chysylltu â nhw o gwbl – dewiswch eich brwydrau’n ddoeth.

  3. Peidiwch rhoi lan

    Nid diwedd y gân yw cael ‘Na’ mewn ymateb i gynnig corfforaethol o reidrwydd. Gofynnwch am adborth i weld a oes ffyrdd eraill y gallech ddatblygu cydberthynas.

    Rwy’n hoffi’r erthygl hwn ynghylch sut gallai ‘na’ gan ddarpar roddwr ddatblygu i fod yn ‘ie’ gyda’r drafodaeth gywir.

  4. Nid arian yw popeth

    Cofiwch, nid arian yw’r unig ffordd na’r ffordd orau bob tro o gael partneriaeth gorfforaethol i fod o fudd i’ch mudiad.

  5. Partner i fyny am hirach

    Mae aelodau’r panel wedi sylwi fod partneriaethau’n symud o rai 1 blynedd i rai 2 neu 3 blynedd. Mae hyn yn rhoi mwy o amser i’r elusen a’r gorfforaeth gynllunio gweithgareddau ystyrlon a strategol.

  6. Defnyddiwch eich dychymyg

    Gweithiwch gyda’r partner corfforaethol i gynllunio gweithgareddau ar gyfer ei staff sy’n ddeniadol, yn ystyrlon ac yn berthnasol i’r cwmni – ceisiwch osgoi blinder cyfranogi ymhlith ei staff o orfod rhedeg hanner marathonau bob blwyddyn!

  7. Gwybod eich gwerth

    Nid oes angen i elusennau fegian am gymorth corfforaethol – mae gennym ni gymaint i’w gynnig i’n partneriaid corfforaethol ag sydd ganddyn nhw i’w gynnig i ni. Gwnewch yn siŵr eich bod yn prisio eich cynnig yn briodol.

  8. Gofyn i’ch staff

    Gall staff o bob rhan o’ch elusen gyfrannu at drafodaethau ynghylch yr hyn y gall eich mudiad ei gynnig i gymorth corfforaethol, a dylent gyfrannu at y trafodaethau hyn.

Dyma rai o’r syniadau ac awgrymiadau a rannwyd gan aelodau’r panel, ymhlith pethau eraill.

Rwy’n ddiolchgar iawn fod IoF Cymru’n gallu cynnal y digwyddiadau hyn fel bod codwyr arian (waeth ai hyn yw teitl eu swyddi neu beidio) yn gallu dod ynghyd i ddysgu oddi wrth ei gilydd.

Gall unrhyw un archebu lle ar yr holl ddigwyddiadau ‘Raise and Shine’ a’r digwyddiadau cyfwerth ar ôl gwaith, ‘Raise and Wine’, ac maen nhw’n werth mynd iddynt i gael cipolwg rhagorol ar bethau fel yr uchod.

Ystyriwch ymuno â’r Sefydliad Codi Arian i gael gostyngiadau ar y digwyddiadau hyn a rhai eraill, yn ogystal â chyrsiau hyfforddi.

Os nad ydych chi’n aelod ond hoffech gofrestru i gael cylchlythyr IoF Cymru, cofrestrwch yma a gwnewch yn siŵr eich bod yn ticio’r blwch ar gyfer diweddariadau Cymru.