Mair Rigby presenting to audience on Inspiring Impact project

Tair ffordd y gall mesur effaith fod yn haws

Cyhoeddwyd: 17/07/19 | Categorïau: Heb gategori, Awdur: Mair Rigby

Mae Mair Rigby, arweinydd Ennyn Effaith ar gyfer Cymru yn WCVA, yn blogio ynghylch llawer o faterion sy’n wynebu mudiadau pan mae’n dod i fesur effaith.

Yr oeddwn yn falch iawn o gael fy ngwahodd i siarad am Ennyn Effaith yng Nghynhadledd Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru ar 6 Mehefin.

Mae’r Rhwydwaith Cydgynhyrchu yn ‘Bencampwr Effaith’ yng Nghymru, felly roedd yn wych i gael y cyfle i gyfarfod gyda’i aelodau, siarad am y prosiect, a chael ychydig o adborth ar gefnogaeth y mae mudiadau eisiau i ddatblygu eu harfer effaith. Dim pwysau felly!

I ddilyn cafwyd sesiwn ‘Ask Me Anything’ (#AMA), ble roedd mynychwyr yn cael, wel, gofyn unrhyw beth am effaith!

Dolenni perthnasol: WCVA yw partner Cymru ar gyfer Ennyn Effaith – dewch i wybod mwy am sut i gymryd rhan ar eu gwefan.

Roedd y Drafodaeth Fflach yn hwyliog iawn ac, ar ei hôl, fe lenwodd fy sesiwn #AMA yn sydyn iawn gyda phobl a oedd eisiau siarad am effaith.

Cawsom drafodaeth fywiog am bob dim o ddeilliannau ysgrifennu, i dystiolaeth, teclynnau ac adnoddau a pherthnasau gyda chyllidwyr.

Cododd tri prif thema yn sydyn o’r drafodaeth a chredais y byddai’n ddefnyddiol i’w rhannu gyda’r gymuned arfer effaith.

1.        Mwy o gefnogaeth i fudiadau gwirfoddol bach a rhai bach iawn

Roedd y mwyafrif o’r mudiadau yn y sesiwn #AMA yn elusennau bach a grwpiau gwirfoddol.

Roeddynt yn awyddus i ddatblygu eu harfer effaith ond yn teimlo bod gwneud hynny’n codi heriau penodol i fudiadau llai mewn perthynas â sgiliau, gallu ac adnoddau.

Mae meddwl am effaith yn cymryd amser ac roedd teimlad bod adnoddau yn fwy addas ar gyfer mudiadau mwy eu maint yn amlach na pheidio.

Roedd mudiadau bach eisiau gwybodaeth ac adnoddau wedi eu teilwra i’w cyd-destun, sydd yn aml yn grŵp o wirfoddolwyr ymroddedig, ychydig o staff (os o gwbl), ac ychydig o amser neu arian i wneud y gwaith tu hwnt i gyflawni.

Pan ofynnwyd beth fyddai’n helpu, awgrymodd mynychwyr y byddai mwy o ganllawiau ‘Gwnewch o eich hunain’ a chanllawiau ‘Sut i’ syml, mwy o gyfleoedd hyfforddi am ddim, a datblygu deilliannau sy’n cael eu rhannu i fudiadau sy’n gweithio ar faterion penodol.

Dolenni perthnasol: Dod yn aelod o WCVA i gael gostyngiad ar hyfforddiant Effaith a Gwerthuso 

2.      Dulliau mwy creadigol o werthuso – sy’n canolbwyntio ar anghenion buddiolwyr  

Teimlodd y bobl y siaradais i gyda nhw bod gwerthuso arfer wedi tueddu i gael ei ddylunio er mwyn ateb anghenion cyllidwyr a mudiadau, yn hytrach na buddiolwyr.

O ganlyniad, gall gwerthuso deimlo’n feichus neu’n ddiystyr i’r bobl rydym yn gweithio gyda hwy. Teimlodd rhai mudiadau bod eu buddiolwyr yn gor-ymchwilio gydag amryw o ofynion fel eu bod yn llenwi ffurflenni monitro neu’n cymryd rhan mewn cyfweliadau.

Roedd pryderon hefyd bod pobl yn ticio bocsus yn unig er mwyn cwblhau’r ffurflenni sy’n cael effaith ar ansawdd y data.

Mae hyn yn codi cwestiynau difyr am ddeinameg pŵer. Pwy mewn gwirionedd mae “gwerthuso” yn ei wasanaethu? Sut fedrwn ni fynd ati i gydgynhyrchu neu werthuso arferion a datblygu dulliau creadigol sy’n teimlo’n ystyriol a phleserus gan bawb?

3.      Gall cyllidwyr wneud mwy i wneud mesur effaith yn fwy hydrin

Roedd yn amlwg o’r trafodaethau bod arfer effiath sefydliadol, yn enwedig i fudiadau bach, yn aml yn cael ei ddylunio gydag anghenion y cyllidwr mewn golwg.

Gallwn ddadlau y dylai mudiadau ddatblygu eu theori newid a fframwaith mesur yn seiliedig ar eu hamcanion sefydliadol eu hunain, yn hytrach na’r hyn y mae cyllidwyr eisiau.

Ond yn benodol, nid yw’n syndod bod mudiadau bach, gyda gallu cyfyngedig ar gyfer ‘amser meddwl’, yn aml yn rhoi blaenoriaeth i anghenion y cyllidwyr.

Dolenni perthnasol: Darllenwch ein hadroddiad ‘Cyllid Cynaliadwy i’r Trydydd Sector’ i gael gwybod beth yr ydym yn ei wneud i wella ein dealltwriaeth o effaith ar draws y sector.

Roedd mudiadau eisiau mwy o gefnogaeth i brynnu i mewn gan gyllidwyr i’w galluogi i fod yn fwy creadigol ac i wneud pethau’n wahanol.

Roedd tri prif faes ble’r oedd mudiadau yn teimlo y gallai cyllidwyr helpu.

  1. Byddwch yn fwy creadigol o ran beth sy’n cyfrif fel “tystiolaeth”
  2. Rhowch mwy o werth i ddysgu i alluogi trafodaethau didwyll am ddeilliannau ac effaith
  3. Darparu mwy o gyllid i fudiadau bach i ddatblygu eu harfer effiath yn eu gwaith – yn hytrach na gwerthuso ar y diwedd

Roedd yr adborth yn hynod ddefnyddiol i mi a byddant yn trwytho ein cynlluniau am weithgareddau Ennyn Effaith dros y flwyddyn nesaf.

Hoffaf ddiolch i’r  Rhwydwaith Cydgynhyrchu am fy ngwahodd ac i fynychwyr am rannu eu profiadau.

Ydych yn meddwl am gychwyn eich taith effaith?