Trwy’r Hwb Gwybodaeth, gall mudiadau gwirfoddol yng Nghymru gael mynediad hawdd at amrediad o adnoddau, rhwydweithio a dysgu ar-lein am ddim. Dyma beth sy’n newydd ers i’r platfform lansio.
Os ydych chi’n gweithio neu’n gwirfoddoli i elusen, grŵp cymunedol neu fudiad gwirfoddol o unrhyw fath yng Nghymru, yna mae’r Hwb Gwybodaeth yma i’ch helpu i gael yr wybodaeth ddiweddaraf, gwella’ch gwybodaeth a chysylltu ag eraill.
Mae cofrestru am ddim ar yr Hwb Gwybodaeth yn rhoi’r cyfle i chi uwchsgilio’ch hun, dysgu a chael gafael ar wybodaeth o ansawdd uchel am feysydd allweddol fel rhedeg eich mudiad, gwirfoddoli, cyllid a dylanwadu.
Mae nifer o newidiadau wedi’u gwneud i’r platfform yn ystod y flwyddyn ddiwethaf fel rhan o’r gwaith gyda phartneriaid Cefnogi Trydydd Sector Cymru i wella ein cynnig ar-lein.
Beth gall defnyddwyr newydd yr Hwb Gwybodaeth a’r rheini sy’n dychwelyd ato ei ddisgwyl felly?
PROFIAD WEDI’I DEILWRA
Mae’r Hwb Gwybodaeth yn cynnwys amrywiaeth eang o gyrsiau e-ddysgu, canllawiau a thrafodaethau rhwng cymheiriaid sydd wedi’u dylunio’n benodol ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru. Ond sut gallwch chi ddod o hyd i’r wybodaeth sy’n berthnasol i chi?
Yn ogystal â thudalennau glanio newydd i’ch helpu i bori, mae’r Hwb Gwybodaeth yn caniatáu i chi ddewis meysydd o ddiddordeb sy’n addas i’ch anghenion (gan ddefnyddio categorïau fel cyfathrebiadau, adnoddau dynol, gwydnwch neu ddiogelu). Bob tro y byddwch chi’n ymweld â’r safle, byddwch chi’n gweld sgrin unigryw, gyda’r cynnwys wedi’i gyflwyno yn ôl yr hyn sydd bwysicaf i chi.
Gall defnyddwyr newydd drefnu hyn wrth gofrestru, a’r cwbl sydd angen i ddefnyddwyr sy’n dychwelyd ei wneud yw mewngofnodi a golygu eu proffil. Bellach, mae’r safle angen i chi greu cyfrif i weld ei holl gynnwys, ond mae cofrestru’n gyflym, yn hawdd ac yn rhad ac am ddim, heb unrhyw ffioedd ar unrhyw adeg.
DYSGU A RHANNU AG ERAILL YN Y SECTOR
Yr ardal Eich Rhwydwaith ar yr Hwb Gwybodaeth yw lle mae mudiadau gwirfoddol yng Nghymru’n dod ynghyd i gysylltu ag eraill, rhannu arferion da a chefnogi ei gilydd.
Mae’r adran yn cynnwys pum rhwydwaith sydd wedi’u hadeiladu o gylch prif feysydd pwnc y safle, ond gallwch chi bostio eitemau ar unrhyw bwnc:
- Gwirfoddoli
- Llywodraethu da
- Diogelu
- Ymgysylltu a dylanwadu
- Cyllid cynaliadwy
Mae pob un yn cynnig lle cydweithredol i gysylltu ag eraill, rhannu arferion da, gofyn cwestiynau, siarad am lwyddiannau a heriau, a chefnogi eich gilydd.
Gall defnyddwyr newydd ddechrau sgyrsiau neu drafodaethau newydd o fewn pob rhwydwaith neu ymateb i bynciau sydd wedi’u postio gan gymheiriaid yn y sector gwirfoddol.
CYRSIAU NEWYDD A CHANLLAWIAU
Mae’r Hwb Gwybodaeth wedi ehangu ei ddetholiad o gyrsiau dysgu o bell ac adnoddau.
Mae’r cyrsiau hyfforddi newydd ar-lein yn cynnwys:
- Creu cyllideb o’r dechrau
- Cyflwyniad i strwythurau cyfreithiol a statws elusennol y sector gwirfoddol
Ac yn dod yn fuan:
- Cynllunio ac ysgrifennu cynnig cyllido llwyddiannus
- Datblygu strategaeth codi arian
Gellir cwblhau’r cyrsiau e-ddysgu ar yr Hwb Gwybodaeth ar eich cyflymder eich hun, a bydd eich cynnydd yn cael ei gadw wrth i chi fynd ymlaen fel y gallwch chi ddychwelyd atynt yn ddiweddarach. Byddwch chi hefyd yn derbyn tystysgrif pan fyddwch chi’n cwblhau cwrs.
Mae’r adnoddau newydd sydd wedi’u hychwanegu at yr Hwb yn cynnwys:
- Taflenni gwybodaeth Cynllunio dulliau marchnata a chyfathrebu, a brandio
- Canllawiau ar Beth mae Canolfannau Gwirfoddoli yn ei wneud yng Nghymru
Mae hefyd adnoddau newydd ar ymgyrchu a dylanwadu, fel:
- Cynllunio ymgyrch
- Datganoli a phwerau
- Sut i gyflwyno tystiolaeth a rhoi tystiolaeth ar lafar
- Lansio deiseb
- Cael clust i’ch neges
Mae’r cyrsiau a’r adnoddau hyn yn ychwanegol i’r casgliad mawr sydd eisoes ar gael ar yr Hwb Gwybodaeth. Mae ein holl gynnwys wedi’i lunio gan arbenigwyr yn eu meysydd sy’n ymroddedig i werthoedd y sector gwirfoddol yng Nghymru.
RHOWCH GYNNIG ARNO EICH HUN
I weld sut gallai’r Hwb Gwybodaeth eich helpu chi, ewch i thirdsectorsupport.wales a chofrestru am ddim.
Rhwydwaith o fudiadau cymorth ar gyfer holl sector gwirfoddol Cymru yw Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Mae’n cynnwys yr 19 o gyrff cymorth lleol a rhanbarthol ledled Cymru, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs) a’r corff cymorth cenedlaethol, CGGC.