Patsy, gwirfoddolwr yn Ymddiriedolaeth Sied Nwyddau Rheilffordd Llanelli

Tyfu trwy wirfoddoli

Cyhoeddwyd : 05/06/25 | Categorïau: Gwirfoddoli | Newyddion |

Wrth i ni ddathlu Wythnos Gwirfoddolwyr 2025 a Diwrnod Amgylchedd y Byd, fe rannwn stori Patsy, sy’n amlygu sut mae gwirfoddoli yn helpu pobl a natur i ffynnu.

Grŵp gwirfoddol yw Ymddiriedolaeth Sied Nwyddau Rheilffordd Llanelli sy’n ymrwymedig i warchod treftadaeth ddiwydiannol Llanelli. Mae’r Sied Nwyddau mewn un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, sydd ag ychydig iawn o fynediad at fannau cymunedol gwyrdd.

Cawsant gyllid gan Gynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi i drwsio’u hadeilad a chyflwyno rhaglen o weithgareddau cymunedol sy’n hybu bioamrywiaeth, cynnig cyfleoedd gwirfoddoli ac sy’n cefnogi gweithrediadau amgylcheddol lleol.

DOD O HYD I DDIBEN DRWY WIRFODDOLI

Mae Patsy yn wirfoddolwr ymroddedig yn Sied Nwyddau Rheilffordd Llanelli. Gwirfoddolwr yn y caffi cymunedol oedd hi i ddechrau, ond mae bellach yn arwain grŵp celf a chrefft wythnosol hefyd sy’n hybu cynaliadwyedd a chreadigrwydd.

Cyn gwirfoddoli, roedd Patsy wedi bod yn teimlo’n unig ac anhyderus, ac yn teimlo’i bod hi wedi colli ei hymdeimlad o ddiben. Trwy fod yn rhan o’r Sied Nwyddau, chwiliodd gysylltiad o’r newydd â’r gymuned a natur.

Daeth y Sied yn fan o gysur a sefydlogrwydd i Patsy, felly pan achosodd Storm Isha ddifrod difrifol i’r to ar ddechrau 2024, cafodd ei chyffroi i’r byw. ‘Y Sied Nwyddau yw fy lle diogel,’ meddai. ‘Roedd gweld y tyllau yn y to yn teimlo fel petai fy lle diogel wedi’i gymryd oddi wrtha i.’

SGILIAU GARDDIO AR WAITH

Daeth Patsy yn un o hyrwyddwyr bioamrywiaeth y prosiect, gan helpu i drawsnewid man a oedd unwaith wedi’i esgeuluso yn lle bywiog a chyfeillgar i fywyd gwyllt. Trwy adnabod planhigion brodorol, trychfilod a phryfed peillio, ac adeiladu gwestai pryfed, chwaraeodd Patsy rôl allweddol mewn gwella cynefinoedd ac annog amrywiaeth ecolegol.

Mae ei hymrwymiad yn ymestyn i rannu gwybodaeth â phobl eraill. Mae wedi helpu cyd-wirfoddolwyr i ddysgu technegau garddio cynaliadwy fel cyd-blannu, ac mae’r sgiliau hyn yn cyfrannu nawr at ddatblygiad gardd gymunedol.

Mae Patsy yn dweud bod treulio amser yn yr awyr agored wedi rhoi hwb i’w llesiant meddyliol a chorfforol. Mae wedi mwynhau darganfod bywyd gwyllt lleol a dysgu sut i ofalu am fannau naturiol, ynghyd ag edrych ar ffyrdd mwy ecogyfeillgar o arddio.

O WASTRAFF I ADNODD

Mae cyfraniadau Patsy at gynaliadwyedd yn mynd y tu hwnt i fioamrywiaeth. Mae ei grŵp celf a chrefft wythnosol yn cefnogi economi gylchol drwy roi diben newydd i ddeunyddiau sy’n cael eu rhoi gan y gymuned leol a fyddai, fel arall, yn mynd i’r safle dirlenwi. Mae’r grŵp nid yn unig yn helpu i leihau gwastraff, ond hefyd yn annog creadigrwydd, ymwybyddiaeth o’r amgylchedd a chysylltiad cymdeithasol.

Gan adeiladu ar ei brwdfrydedd am gelf gynaliadwy, gwnaeth Patsy hefyd gymryd rhan mewn gweithdy uwchgylchu lle dysgodd ddefnyddio peiriant wnïo a thrawsnewid darn o ddefnydd yn fagiau gwres amldro y gellir eu twymo mewn microdon. Nawr, mae’n rhannu’r sgiliau hyn gyda’i grŵp crefft.

Gan fyfyrio ar ei thaith, dywedodd Patsy: ‘Roeddwn i wastad yn meddwl mai blodyn yn y lle anghywir oedd chwyn, ac yn haeddu bod yno i helpu’r gwenyn. Rwy’n credu mod i’n debyg iawn i’r chwyn, ond y Sied Nwyddau yw’r lle iawn i mi fod – i helpu natur a phobl eraill.’

WYTHNOS GWIRFODDOLWYR 2025

Mae stori Patsy yn un bwerus sy’n ein hatgoffa o’r effaith y gall gwirfoddolwyr ei chael. Os ydych chi wedi eich ysbrydoli i ddathlu gwirfoddoli a chyflawniadau gwirfoddolwyr, cymerwch ran yn Wythnos Gwirfoddolwyr 2025.

Mae’r Wythnos Gwirfoddolwyr yn ymgyrch flynyddol ledled y DU a gynhelir o’r dydd Llun cyntaf ym Mehefin i ddathlu a chydnabod cyfraniadau gwirfoddolwyr, a cheir rhagor o wybodaeth ar eu gwefan.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 15/09/25
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Datgloi potensial heb ei gyffwrdd mewn chwaraeon cymunedol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/07/25
Categorïau: Gwirfoddoli, Newyddion

Cyflwyno dull newydd o wirfoddoli yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/06/25
Categorïau: Gwirfoddoli, Newyddion

Gwirfoddoli: Curiad calon iechyd a gofal yng Nghymru

Darllen mwy