An older gentleman sits next to a young woman. Both are laughing

Tyfu gwirfoddoli ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol

Cyhoeddwyd : 10/10/22 | Categorïau: Gwirfoddoli |

Mae Helplu Cymru yn cynnal digwyddiad ar-lein i edrych ar sut gallwn ni ddylunio, gwerthuso ac ehangu gwirfoddoli er mwyn cael mwy o effaith ar iechyd a gofal cymdeithasol.

 Mae angen i ni dyfu gwirfoddoli: er mwyn ehangu ac ymestyn gweithgareddau gwirfoddolwyr a hefyd i wella’r ffocws strategol, y cynllunio, yr adnoddau a’r effaith.

Mae angen i’n gwasanaethau iechyd a gofal ddod o hyd i ffyrdd o weithio gyda’r holl adnoddau sydd ar gael o fewn ein cymunedau, gan gynnwys gwirfoddolwyr, os ydynt am atal yr argyfwng cynyddol o ran capasiti.

Bydd gweminar ar ddydd Iau 27 Hydref 2022 rhwng 10.30am a 12.30pm sydd wedi’i threfnu ar y cyd gan Helplu ac CGGC. Bydd yn cyflwyno rhai ffyrdd y gall Helplu gynorthwyo mudiadau i gynllunio a thyfu gwirfoddoli, gan gynnwys cynllunio gwasanaethau newydd i wirfoddolwyr, gwerthuso canlyniadau iechyd gweithgareddau gwirfoddol a digwyddiadau ar-lein, fforymau ac adnoddau.

Byddwn ni’n clywed am brofiadau prosiectau yng Nghymru a Lloegr, a bydd digon o gyfle am gwestiynau a thrafodaeth.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, er enghraifft, wedi datblygu rôl i gymdeithion gwirfoddol gefnogi cleifion a’u teuluoedd ar ddiwedd eu hoes. Ar hyn o bryd, maen nhw’n gweithio gyda chydweithwyr ar draws adrannau’r GIG i edrych ar sut i greu llwybrau ‘gwirfoddoli i yrfa’, gan dargedu gwirfoddolwyr a all ddatblygu diddordeb a phrofiad ar y ffordd i yrfa yn y maes iechyd a gofal ’.

Mae Bowel Cancer UK a phractis Meddygol Borth yn edrych ar ffyrdd y gall gwirfoddolwyr gefnogi pobl sydd ar restrau aros meddygol.

Mae’r digwyddiad yn fwyaf perthnasol i’r rheini â chyfrifoldeb dros wirfoddoli sy’n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol, boed hynny yn y GIG neu mewn lleoliadau cymunedol.

Bydd hefyd o ddiddordeb i’r rheini mewn rolau strategol, cyrff seilwaith gwirfoddoli ac i’r rheini â diddordeb mewn datblygu gwasanaethau integredig ac arloesedd o fewn y maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Gallwch chi gadw lle ar y weminar yma.

Eisiau’r newyddion diweddaraf, barna a chyhoeddiadau yn ogystal ag erthyglau defnyddiol ar bynciau sydd o bwys? Ymunwch gyda’n rhestr bostio. Bob wythnos rydym yn cynnig crynodeb o newyddion y sector wirfoddol a diweddariadau yn syth i’ch mewnflwch.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 02/08/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 12/07/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Rôl gwirfoddoli mewn cartrefi gofal yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy