dau fenyw yn siarad am mesur effaith

Treialu offer ymgysylltu newydd er mwyn casglu tystiolaeth

Cyhoeddwyd : 30/04/20 | Categorïau: Dylanwadu |

Wrth i ymchwiliadau i effaith Covid-19 ddechrau dod i’r wyneb, rydyn ni’n peilota cwpwl o offer ymgysylltu ar-lein newydd er mwyn helpu i gasglu eich sylwadau a’ch adborth.

Yn ystod y diwrnodau diwethaf, mae’r Pwyllgor Materion Cymreig wedi lansio ymgynghoriad ar effaith Covid-19 ar economi Cymru, ac mae’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wedi cyhoeddi un ar effaith Covid-19 ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Byddwn yn ymateb i’r ddau ymgynghoriad hyn, ac rydyn ni mor awyddus ag erioed i gynnwys cymaint â phosibl o leisiau o’r sector gwirfoddol yn ein hymatebion. I’r diben hwn, rydyn ni’n manteisio ar y cyfle hwn i dreialu ffyrdd digidol newydd o gasglu eich adborth.

Rydyn ni’n rhoi cynnig ar Your Priorities, sef offeryn sydd wedi’i gynllunio’n benodol i gasglu tystiolaeth ar gyfer ymgynghoriadau a gwaith ymchwil mwy trylwyr, i gael eich barn ar ymgynghoriad y Pwyllgor Materion Cymreig. Mae gan yr ymgynghoriad hwn nifer o gwestiynau lefel uchel, felly byddwch chi’n gweld adrannau ar gyfer pob un –  ymatebwch i’r rhai sydd o bennaf bwys i chi.

Ac ar gyfer yr ymgynghoriad ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, rydyn ni’n treialu Padlet – sef pinfwrdd digidol ar gyfer casglu tystiolaeth mewn modd syml. Nid oes gan yr ymgynghoriad hwn gwestiynau penodol –dim ond gofyn am eich sylwadau a’ch profiadau y mae ef. Rydyn ni’n gobeithio y bydd Padlet yn ffordd dda o gasglu adborth gan y sector ar gyfer y math hwn o ymgynghoriad.

Gallwch adael ymatebion yn Your Priorities a Padlet yn ddienw neu fel arall – chi biau’r dewis.

Wrth gwrs, gallwch anfon eich tystiolaeth atom yn y ffordd arferol hefyd – y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw anfon unrhyw bwyntiau yr hoffech chi i ni ystyried eu cynnwys yn ymateb CGGC ar e-bost at ein Swyddog Polisi, David Cook, ar dcook@wcva.cymru erbyn 15 Mai 2020.

Rydyn ni’n awyddus i gynyddu nifer y lleisiau o’r sector gwirfoddol, a’r amrywiaeth ohonynt, yn ein hymatebion i ymgynghoriadau – felly anfonwch yr wybodaeth hon ymlaen at unrhyw fudiadau partner a allai fod â diddordeb. Ac os gwyddoch chi am unrhyw offer y credwch y dylai CGGC feddwl am eu treialu fel rhan o’n prosesau ymgysylltu o ran ymgynghoriadau, rhowch wybod i ni ar y cyfeiriad e-bost uchod.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 13/01/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Rheoliadau newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 29/11/24
Categorïau: Dylanwadu, Newyddion

Brwydro yn erbyn effaith cyllideb y DU ar fudiadau gwirfoddol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 08/11/24
Categorïau: Cyllid, Dylanwadu, Newyddion

CGGC yn rhannu pryderon y sector ar gynnydd Yswiriant Gwladol

Darllen mwy