A hoffech chi ddenu pobl o gefndiroedd amrywiol i gymryd rhan yn eich mudiad neu prosiectau treftadaeth?
Fel rhan o brosiect Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion, rydyn ni’n gweithio gyda’n partneriaid prosiect;
- Anabledd Cymru,
- Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST), a
- Pride Cymru
i hwyluso ymweliadau ar gyfer eu haelod-fudiadau/gwirfoddolwyr.
NODAU
Nod yr ymweliadau yw rhoi cyfle i ddechrau neu datblygu gwaith sy’n ymwneud â dod yn fudiad mwy amrywiol a chynhwysol. Gallai hyn gynnwys cyrraedd cynulleidfaoedd a chefnogwyr newydd a denu gwirfoddolwyr, aelodau bwrdd a staff newydd er mwyn sicrhau bod ein treftadaeth ar gael i bawb.
Y nod yw i fudiadau treftadaeth gyd-ddylunio rhaglen berthnasol o weithgareddau gyda’r grŵp sy’n ymweld. Gallai enghreifftiau posibl gynnwys taith dywysedig neu gyfle i gymryd rhan mewn gweithgaredd dysgu neu gwirfoddoli. Gallai’r rhain hefyd fod yn gyfleoedd ar-lein, e.e. teithiau rhithwir.
MYNEGI DIDDORDEB
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn trefnu ymweliad o dymor y Gwanwyn, 2023, ymlaen, byddem ni’n dwli clywed oddi wrthych chi.
Byddai’r broses yn cynnwys:
- Llenwi’r Ffurflen Mynegi Diddordeb.
- Dod i ddigwyddiad ar-lein, dwy awr o hyd ym mis Chwefror/Mawrth 2023 i gwrdd â chynrychiolwyr o Anabledd Cymru, Pride Cymru ac EYST i gyflwyno gwaith eich mudiad.
- Ar ôl y digwyddiad, byddech chi’n cael eich paru ag un o’r mudiadau partner a fydd yn hwyluso ymweliad cychwynnol rhwng eich mudiad ac un o’r aelod-fudiadau neu gwirfoddolwyr.
YMGEISIWCH NAWR
Ar hyn o bryd, mae gennym ni’r capasiti i weithio gydag 21 o fudiadau treftadaeth i hwyluso ymweliadau.
Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu yn unol â’r meini prawf yn y canllawiau ymweliad prosiect.
I gofrestru eich diddordeb mewn cymryd rhan a chael ffurflen Mynegi Diddordeb wedi’i hanfon atoch, cysylltwch â Siobhan Hayward, Swyddog Catalydd Cymru shayward@wcva.cymru
Dyddiad cau ar gyfer Mynegi Diddordeb – Dydd Llun 6 Chwefror 2023.
Bydd mudiadau sy’n trefnu ymweliadau hefyd yn gymwys i wneud grant am Grant Cymunedol rhwng £500 – £3,000. Gall y grantiau gefnogi camau i’ch galluogi chi i ddod yn fudiad mwy cynhwysol.
Bydd y grant yn agor ar ddechrau 2023.