Mae menyw yn nigwyddiad dathlu Catalyst Cymru: Ehangu Gorwelion yn chwerthin wrth iddi siarad â'r dorf

Trawsnewid Treftadaeth Cymru

Cyhoeddwyd : 22/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Gyda phrosiect ‘Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion’ wedi dod i fwcl, edrychwn yn ôl ar effaith y prosiect ar fudiadau treftadaeth yng Nghymru a’r gwersi a ddysgwyd.

Mae prosiect Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion, a gafodd ei arwain gan CGGC a’i gyllido gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, wedi creu ton o newid positif ar draws mudiadau treftadaeth yng Nghymru.

Canolbwyntiodd y prosiect ar helpu mudiadau treftadaeth bach a chanolig eu maint, neu fudiadau gwirfoddol â phrosiectau treftadaeth, i ffynnu drwy hybu cynaliadwyedd, gwydnwch a chynhwysiant.

Rhedodd y prosiect o fis Gorffennaf 2021 i fis Mehefin 2024, ac mae’r cyfuniad o gymorth wedi’i deilwra ac allgymorth cymunedol wedi cael effaith barhaus ar fudiadau a’r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu.

HYFFORDDIANT WEDI’I DEILWRA: GRYMUSO MUDIADAU I FFYNNU

Un o brif lwyddiannau’r prosiect oedd ei raglen hyfforddi bersonoledig, a oedd yn cynnig cymorth ymarferol i fudiadau treftadaeth, gan fynd i’r afael ag anghenion penodol. O gynllunio strategol i wella sgiliau codi arian, gwnaeth yr hyfforddiant hwn helpu cyfranogwyr i gyflawni canlyniadau anhygoel.

Un mudiad o’r fath oedd Ymddiriedolaeth Sied Nwyddau Rheilffordd Llanelli, a lwyddodd i gael grantiau mawr (mwy na £100,000) diolch i’r arweiniad a gawsant gan eu hyfforddwr arbenigol, a anadlodd fywyd newydd i’w gwaith treftadaeth.

Gwnaeth y sesiynau teilwredig hyn ddysgu mwy na sgiliau technegol yn unig – rhoesant yr hyder a’r adnoddau oedd eu hangen ar fudiadau i dyfu.

HYFFORDDIANT A DANIODD SYNIADAU NEWYDD A HYDER

Gwnaeth y prosiect hefyd ddarparu 16 o gyrsiau hyfforddi effeithiol tu hwnt, a fynychwyd gan 168 o gyfranogwyr. Yn y sesiynau hyn, ymdriniwyd â phopeth o arweinyddiaeth i ddiogelu, a gwnaethant nid yn unig arfogi cyfranogwyr â gwybodaeth ymarferol, ond gwnaethant hefyd gynnau ymdeimlad o rymuso a phosibilrwydd.

Cafodd y rheini a gymerodd ran syniadau newydd ar gyfer cynhyrchu incwm ac ymgysylltu â’r gymuned. Gwnaeth natur ryngweithiol yr hyfforddiant ganiatáu i fynychwyr gysylltu a rhannu profiadau, gan greu crychdon o ddysgu a brwdfrydedd a fydd yn parhau ymhell ar ôl i’r prosiect ddod i ben.

EHANGU RHWYDWEITHIAU: ADEILADU CYMUNEDAU CYNHWYSOL

Un o’r prif bethau roedd Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion yn canolbwyntio arno oedd cynwysoldeb. Trwy bartneru â mudiadau arbenigol, Anabledd Cymru, Pride Cymru, ac EYST Cymru (Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru), llwyddodd y prosiect i estyn grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a’u croesawu i mewn i dirwedd dreftadaeth gyfoethog Cymru.

Er bod trefnu’r digwyddiadau adeiladu rhwydwaith hyn wedi bod yn heriol, gwnaethant greu cysylltiadau pwerus a meithrin ymgysylltiad cymunedol. Roedd ymweliadau i safleoedd treftadaeth yn fwy na gwibdeithiau’n unig – roeddent yn gyfleoedd i sbarduno deialogau newydd ynghylch amrywiaeth, hygyrchedd a threftadaeth. O ganlyniad, adroddodd rhai grwpiau treftadaeth bod grwpiau a oedd wedi ymweld wedi mynegi diddordeb mewn cymryd rhan yn eu gwaith yn y dyfodol.

GRANTIAU BACH, EFFAITH FAWR

Uchafbwynt arall o’r prosiect oedd y cynllun grantiau cymunedol, a oedd yn cynnig cymorth ariannol i fudiadau s’n gweithio ar brosiectau treftadaeth ystyrlon. Gwnaeth y grantiau hyn – a oedd yn fychan eu maint ond mawr eu heffaith – ganiatáu i grwpiau wella hygyrchedd, creu arddangosiadau addysgol a hyfforddi gwirfoddolwyr.

Gwnaeth prosiectau fel Circus Eruption, a ddefnyddiodd gyllid grant i gynhyrchu ffilmiau treftadaeth digidol, a Phrosiect Morwellt, a ddenodd gwirfoddolwyr i faes cadwraeth amgylcheddol, ddangos sut y gallai’r swm lleiaf o gyllid ddatgloi llwybrau creadigol. Gwnaeth y mentrau hyn helpu mudiadau i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a dangos eu lle pwysig yn y gymuned.

ETIFEDDIAETH O DWF, CYNWYSOLDEB A CHYNALIADWYEDD

Mae Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion wedi bod yn fwy na phrosiect yn unig – mae wedi bod yn sbardun i newid parhaus, go iawn yn sector treftadaeth Cymru. Trwy hyfforddiant personoledig, hyfforddiant trawsnewidiol ac ymgysylltiad cymunedol, mae mudiadau a phrosiectau treftadaeth yn fwy gwydn, cynaliadwy a chynhwysol bellach.

PECYN CYMORTH EHANGU GORWELION

Bydd Pecyn Cymorth Ehangu Gorwelion Catalydd Cymru, sy’n dyst i’r cyfoeth o brofiad oedd yn y prosiect, yn parhau i arwain mudiadau treftadaeth tuag at adeiladu dyfodol mwy amrywiol a llewyrchus.

Os ydych chi eisiau ehangu cyrhaeddiad eich mudiad, amrywio eich cynulleidfa a dod yn fwy cynhwysol, mae ein Pecyn Cymorth, Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion, yn lle gwych i ddechrau.

Mae’r pecyn cymorth am ddim hwn yn berthnasol i unrhyw fudiad gwirfoddol yng Nghymru, waeth a oes gennych gysylltiad â threftadaeth neu beidio, felly defnyddiwch ef!

EDRYCH YMLAEN: Y GLASBRINT I LWYDDO YN Y DYFODOL

Mae prosiect Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion CGGC wedi llwyddo i gryfhau’r sector treftadaeth yng Nghymru, gan gefnogi cynaliadwyedd a chynwysoldeb hirdymor mewn mudiadau a phrosiectau treftadaeth.

Mae’r prosiect wedi dangos beth ellir ei gyflawni gyda chymorth ystyrlon wedi’i dargedu. O gael cyllid i ehangu rhwydweithiau, mae Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion yn enghraifft o sut gall mudiadau gwirfoddol ddatblygu a ffynnu gyda’r help cywir.

Trwy gofleidio cynwysoldeb a chymuned, mae’r prosiect hwn wedi gosod y sylfaen ar gyfer pethau gwell fyth i ddod yn nhirwedd dreftadaeth Cymru a thu hwnt.

GWERTHUSIAD ANNIBYNNOL

Nid oedd y prosiect yn fêl i gyd a chafodd llawer o grwpiau anhawster ymhél yn llawn oherwydd eu capasiti eu hunain. Gallwch ddarllen gwerthusiad annibynnol gan Funding Eye Ltd i gael y darlun llawn a chyd-destun ehangach y gwaith hwn.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 31/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Allwch chi helpu i stopio’r effaith gynyddol?

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 10/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Gwobrau Elusennau Cymru 2024 – Cyhoeddi’r teilyngwyr

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Sut i gymryd rhan yn Wythnos Elusennau Cymru

Darllen mwy