Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan. I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma.
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
2 x sesiwn 3 awr / ar-lein
Amcanion
Awydd gwella eich cynnwys digidol? Angen sefyll allan a chael eich clywed arlein? Bydd y cwrs hwn yn darparu awgrymiadau doeth ac offer am ddim i chi sicrhau bod eich cynnwys yn tynnu sylw.
Cynnwys
Mae cynnwys yn hollbwysig. Mae’n sylfaen i bob rhyngweithiad arlein. Os oes gennych rywbeth i’w ddweud, ond dim syniad sut, gallwn ni helpu!
Cewch ddysgu sut i ysgrifennu mewn ffordd sy’n ennyn diddordeb eich darllenwyr a sut i greu a defnyddio delweddau hardd sy’n rhad ac am ddim. Bydd y cwrs hwn yn sicrhau bod eich gwefan yn llawn cynnwys sy’n dal sylw eich cynulleidfa.
Byddwn ni’n dangos i chi sut mae creu cynnwys sy’n ennyn diddordeb, a sut mae ysgrifennu mewn ffordd sy’n eich rhoi yn uchel mewn canlyniadau chwilio Google. Byddwn hefyd yn dangos i chi sut i reoli’ch system rheoli cynnwys a gosod canllawiau arddull i sicrhau cysondeb ar eich tudalennau i’ch gwefan edrych yn broffesiynol.
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y cwrs hwn, byddwch yn gallu:
- Creu cynnwys diddorol a deniadol sy’n diwallu anghenion eich cynulleidfa
- Creu a defnyddio cyfryngau trawiadol i ddenu sylw a symud eich cynnwys i’r lefel nesaf
- Cynllunio’n effeithiol a chadw ar ben eich cynnwys arlein
- Deall y ffordd y mae peiriannau chwilio yn gweithio a sut mae defnyddio geiriau allweddol
- Deall nodweddion allweddol Google Analytics i fesur llwyddiant eich gwefan yn fanwl gywir
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae’r cwrs ar gyfer pobl broffesiynol sy’n creu cynnwys i wefannau neu gylchlythyrau eu mudiadau, neu sy’n ysgrifennu i hyrwyddo. Mae’r cwrs hefyd yn addas i’r bobl hynny sy’n newydd i ysgrifennu cynnwys, neu sy’n dymuno diweddaru eu gwybodaeth.
Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu
Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:
- Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
- Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
- Cyrhaeddwch 5-10 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
- Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl.
- Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
- Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
- Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).
UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad
Angen help neu ragor o wybodaeth?
- Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Sector Gwirfoddol gydag CGGC? Gwiriwch yma.
- Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Ymgysylltiedig gydag CGGC? Gwiriwch yma.
- Rydym yn cynnig cyrsiau pwrpasol sydd wedi’u dylunio o gwmpas anghenion eich mudiad. Llenwch ein ffurflen ‘cais am hyfforddiant pwrpasol’ ac fe wnawn ni gysylltu â chi.
- Cliciwch yma i gael eich ychwanegu at y rhestr aros.
- Os oes gennych chi unrhyw ymholiad arall, anfonwch e-bost at bookings@wcva.cymru.
- Gallwch chi gofrestru ar ein rhestr bostio i dderbyn diweddariadau bob wythnos/mis.