Ymdrin â sefyllfaoedd anodd

Ymdrin â sefyllfaoedd anodd

Categorïau: Cyfathrebu, Wedi’i deilwra,

Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan. I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma. 

Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg

2 x sesiwn 3 awr / ar-lein

Amcanion

Rhoi’r sgiliau a’r technegau ymarferol i chi fynd ati’n hyderus i reoli sefyllfaoedd anodd yn eich rôl.

Cynnwys

Ydych chi’n dod ar draws sefyllfaoedd heriol yn eich gwaith? Waeth a ydych chi’n weithiwr cymorth neu yn rhyngweithio’n rheolaidd â’r cyhoedd, mae cyflogeion a gwirfoddolwyr y sector gwirfoddol yn wynebu gwrthdaro, rhyngweithiadau emosiynol a phryderon diogelu’n aml.

Bydd y cwrs rhyngweithiol hwn yn eich helpu i:

  • fyfyrio ar eich ymddygiadau a’ch ymatebion eich hun
  • edrych ar ystyriaethau diogelu allweddol
  • datblygu dealltwriaeth glir o bendantrwydd
  • dysgu technegau ymarferol i reoli achosion o wrthdaro mewn modd adeiladol

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu:

  • adnabod eich ymddygiadau eich hun a’r ffordd rydych yn ymateb mewn sefyllfaoedd gwahanol
  • deall sut i fod yn bendant a rheoli ffiniau
  • defnyddio technegau i ymdrin â sefyllfaoedd anodd yn hyderus

Ar gyfer pwy mae’r cwrs

Mae’r cwrs hwn yn berffaith i unrhyw un sydd angen ymdrin â phobl yn unigol ac mewn grwpiau bach, e.e. gweithwyr cymorth, gweithwyr rheng flaen, gwirfoddolwyr.

Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu

Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:

  • Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
  • Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
  • Cyrhaeddwch 5-10 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
  • Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl.
  • Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
  • Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
  • Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).

UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad

Angen help neu ragor o wybodaeth?