Llun: Cyfarfod â chydweithwyr

Y Tu Hwnt i’r wybodaeth sylfaenol – Cryfhau llywodraethu eich elusen

14 Ebrill 2025
10 am – 1 pm | Ar-lein

Cyflwynir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg  

1 x sesiwn 3 awr / ar-lein

Nod 

Mae’r gweithdy hwn sy’n para am 3 awr ar gyfer pobl sy’n dymuno ‘codi’r gwastad’ o ran llywodraethu eu helusen a gosod targedau uchel ar gyfer eu Bwrdd neu eu pwyllgor rheoli.  

Cynnwys 

Mae llywodraethu da yn hanfodol er mwyn sicrhau gwydnwch a llwyddiant elusen. Wedi’i seilio ar egwyddorion y Côd Llywodraethu i Elusennau, bydd y cwrs ar-lein ymarferol a rhyngweithiol hwn yn eich tywys chi y tu hwnt i wybodaeth sylfaenol llywodraethu elusennau ac yn eich helpu chi i sefydlu ac i gynnal safonau uchel ar gyfer eich elusen.  

Erbyn diwedd y cwrs, dylech chi fod wedi gosod camau ymarferol y gall eich Bwrdd eu defnyddio er mwyn cryfhau ei lywodraethu.  

Canlyniadau Dysgu    

Trwy fynychu’r cwrs hwn, byddwch chi’n meddu ar:  

  • Lefel uwch o wybodaeth ynghylch yr egwyddorion a nodwyd yng Nghôd Llywodraethu i Elusennau a sut i’w cymhwyso o ran llywodraethu yn eich elusen   
  • Lefel uwch o wybodaeth am bolisïau llywodraethu a pham eu bod yn bwysig  
  • Lefel uwch o wybodaeth am arfer da o ran recriwtio ymddiriedolwyr, gan gynnwys cynnal archwiliadau sgiliau, recriwtio agored, sefydlu, a chynllunio ar gyfer olyniaeth   
  • Lefel uwch o wybodaeth am sut i gynnal ymarfer arfarnu’r Bwrdd   
  • Lefel uwch o wybodaeth am sut i gynnal adolygiadau llywodraethu  

Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn?  

Mae’r cwrs hwn yn fwyaf addas ar gyfer pobl sy’n meddu ar rywfaint o brofiad a gwybodaeth am lywodraethu elusennau; er enghraifft, ymddiriedolwyr a swyddogion llywodraethu wedi’u hen sefydlu, a Phrif Weithredwyr sy’n cefnogi eu Bwrdd i wella.  

Mae’r cwrs hwn yn cymryd yn ganiataol bod eich elusen eisoes yn meddu ar safon dda o lywodraethu y gellir gweithio oddi arni; er enghraifft, Bwrdd â rolau a chyfrifoldebau a ddiffiniwyd, rhywfaint o bolisïau a gweithdrefnau llywodraethu mewn lle, ac ymwybyddiaeth a rennir o bwysigrwydd llywodraethu a safonau megis Côd Llywodraethu i Elusennau, Egwyddorion Nolan ac ati.  

Os ydych chi’n chwilio am gynnwys mwy sylfaenol, efallai y bydd ein cwrs Cyflwyniad i Lywodraethu Da yn fwy addas ar eich cyfer chi.   

Nid yw’r cwrs hwn yn addas i Fyrddau sydd mewn cyfnod o argyfwng neu sy’n profi problemau difrifol. Yn yr achos hwn, siaradwch â CGGC neu siaradwch â’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol am y materion.   

Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu

Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:

  • Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
  • Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
  • Cyrhaeddwch 5 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
  • Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl.
  • Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
  • Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
  • Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).

UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad

Angen help neu ragor o wybodaeth?