Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan – cofrestrwch ar ein rhestr bostio i fod y cyntaf i glywed.
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
Amcanion
Grymuso eich tîm mewnol i gyflawni canlyniadau cysylltiadau cyhoeddus mwy effeithiol ar gyfer eich elusen.
Cynnwys
Ni fu amser pwysicach i dorri drwy’r twrw gyda storïau a chynnwys cymhellol. Mae’n gwbl bosibl i gyflawni gwell canlyniadau cysylltiadau cyhoeddus yn fewnol – y cyfan sydd ei angen yw dealltwriaeth o’r offer a’r technegau sydd ar gael i chi. Bydd y cwrs undydd hwn, sydd wedi’i rannu’n ddau weithdy hanner diwrnod ar-lein, yn rhannu’r syniadau a’r technegau sydd eu hangen arnoch i’ch helpu chi i gyflawni gwell canlyniadau cysylltiadau cyhoeddus sy’n gysylltiedig ag amcanion eich mudiad.
Canlyniadau dysgu
- Deall sut mae cysylltiadau cyhoeddus yn gweithio a sut gallwch chi eu defnyddio i gefnogi’ch amcanion
- Deall sut mae newyddion yn gweithio a sut gallwch chi ‘greu’ newyddion
- Deall sut i strwythuro ac ysgrifennu datganiad i’r wasg
- Deall sut i gyfleu eich neges i newyddiadurwyr
- Deall beth sy’n gwneud ffotograff cysylltiadau cyhoeddus da
- Deall eich cyfryngau targed a sut mae’r cyfryngau’n gweithio
I bwy mae’r cwrs?
Arweinwyr elusennau a staff marchnata a digwyddiadau.
Sara Robinson, Ymgynghorydd a hyfforddwr cysylltiadau cyhoeddus
Mae Sara wedi ennill gwobrau am fod yn ymgynghorydd, hyfforddwr ac ysgrifennwr cynnwys cysylltiadau cyhoeddus, ac mae ganddi brofiad gwerthfawr o amrediad eang o sectorau, gan gynnwys cyflawni ymgyrchoedd arobryn ar gyfer nifer o elusennau.
Yn gyn-newyddiadurwr print a darlledu, a chyda 19 o flynyddoedd o brofiad o gysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu corfforaethol, mae’n arbenigo mewn datrysiadau a hyfforddiant cysylltiadau cyhoeddus ac ymgyrchoedd cysylltiadau cyhoeddus integredig sy’n cyflawni canlyniadau. Gyda’i chefndir mewn cyfryngau print a darlledu, mae Sara yn deall yr hyn sydd ei angen ar y cyfryngau a sut i’w gyflawni. Mae hefyd yn golofnydd gyda The Western Mail, Business Matters ac yn cyfrannu’n rheolaidd ar BBC Radio Cymru. Mae Sara wedi llunio a chyflawni mwy nag 20 o ymgyrchoedd cysylltiadau cyhoeddus arobryn, gan gynnwys Gwobr Llywydd CIPR UK, a hi oedd Cyfarwyddwr Ifanc y Flwyddyn Cymru Sefydliad y Cyfarwyddwyr yn 2012.
Pa un a yw hi’n cyflwyno hyfforddiant ar y cyfryngau, cyfathrebu mewn argyfwng, ysgrifennu ar gyfer y cyfryngau neu’n llunio strategaeth cyfathrebu brand, mae’n hyfforddwr a hwylusydd profiadol sy’n cynorthwyo timau i fod mor dda ag y gallant fod.