Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan!
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
Amcanion
Edrych ar sut y gall eich elusen neu’ch grŵp cymunedol ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn fwy effeithiol i ennyn diddordeb a dylanwadu ar eich cynulleidfa.
Cynnwys
Mae cyfryngau cymdeithasol wedi newid llawer yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan ei gwneud hi’n anoddach i elusennau a mudiadau nid-er-elw fod yn llwyddiannus ar gyfryngau cymdeithasol.
Fodd bynnag, mae modd cael cyrhaeddiad organaidd ac ymwelwyr ar Facebook a Twitter o hyd, ond ei fod yn gofyn am gynllunio gofalus a dulliau gweithredu strategol.
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu’n benodol at elusennau i’w helpu i ddweud eu dweud ar-lein.
Canlyniadau dysgu
- Sut mae cyfryngau cymdeithasol yn gweithio yn y dirwedd gyfredol
- Sut i nodi rhwystrau unigol a sefydliadol i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol
- Pa fathau o gynnwys sy’n perfformio’n dda ar gyfryngau cymdeithasol ar hyn o bryd
- Sut i lunio negeseuon unigryw a diddorol ar gyfer eich platfformau cymdeithasol amrywiol
- Sut i ddechrau ar strategaeth cyfryngau cymdeithasol eich elusen
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Anelir y cwrs hwn at staff neu wirfoddolwyr sy’n gobeithio datblygu eu sgiliau cyfathrebu ac ymgysylltu digidol. Nid yw’r cwrs yn benodol i “ddechreuwyr” nac i “arbenigwyr”, croesawir pob lefel o allu technegol gan fod y cwrs hwn yn ymdrin â dulliau a thechnegau i’ch mudiad trydydd sector ffynnu ar-lein.
Gofynion y cwrs
Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y profiad gorau ar ein cyrsiau, gofynnwn y canlynol ohonoch chi;
- Ymrwymwch i fynychu holl hyd yr hyfforddiant
- Profwch eich mynediad i Zoom
- Bydd yr hyfforddiant yn dechrau’n brydlon, cyrhaeddwch 10 munud cyn yr amser dechrau, oherwydd mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael eu gadael i mewn
- Mae ein cyrsiau’n rhyngweithiol a chyfranogol a gofynnwn, lle’n bosibl, i’r holl ddysgwyr gael eu camerâu arno a chymryd rhan drwy’r cyfleusterau microffon a sgwrsio
- Rhowch wybod i ni wrth gadw’ch lle os oes gennych chi unrhyw ofynion penodol, e.e. dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
- Bydd copi dall o’r cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau yn cael ei anfon atoch gan bookings@wcva.cymru, gwiriwch eich ffolder e-bost sothach os nad ydych chi wedi’u derbyn wythnos cyn yr hyfforddiant (unrhyw broblemau, rhowch wybod i ni)
- Os na allwch chi fynychu, anfonwch e-bost at training@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo)
I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma.
Gellir cyflwyno pob un o’n cyrsiau mewn modd pwrpasol wedi’u teilwra er mwyn diwallu anghenion eich mudiad. Llenwch ein ffurflen gais am hyfforddiant pwrpasol ac fe wnaiff aelod o’n tîm ni’n cysylltu â chi.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiad arall, anfonwch e-bost at training@wcva.cymru. Gallwch chi gofrestru ar ein rhestr bostio i dderbyn diweddariadau bob wythnos/mis.