man writing on a whiteboard in a meeting / Dyn yn ysgrifennu ar fwrdd gwyn mewn cyfarfod

Tyfu i Arwain

17 Tachwedd 2026
10 am – 1 pm | Ar-lein

Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg

1 x sesiwn 3 awr / ar-lein

Cyflwynir gan Eileen Murphy

Nod

Magu eich hyder a’ch sgiliau ymarferol er mwyn arwain â diben, cefnogi’r tîm a gwneud gwahaniaeth positif. 

Cynnwys

Mae arweinyddiaeth yn ymwneud â chreu’r amodau a’r amgylchedd i bobl fod yn eglur, yn frwd a theimlo eu bod yn gallu gwneud eu gwaith gorau. 

Mae’r gweithdy rhyngweithiol hwn yn cyflwyno egwyddorion arweinyddiaeth drawsnewidiol mewn modd ymarferol a chefnogol. Trwy drafod, myfyrio a gwneud gweithgareddau, byddwch yn edrych ar sut gall eich gwerthoedd, ymddygiad, dull arwain a’ch sgyrsiau bob dydd helpu i greu diwylliant positif i’r tîm a’r mudiad. 

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y gweithdy byddwch chi’n gallu: 

  • Arwain gyda mwy o eglurder, hyder a diben
  • Defnyddio gweledigaeth a gwerthoedd i ysgogi eraill
  • Meithrin ymgysylltiad, cydweithrediad a chydberchnogaeth yn eich tîm
  • Dewis camau nesaf ymarferol ar gyfer eich datblygiad parhaus fel arweinydd  

I bwy mae’r cwrs? 

Mae’r cwrs hwn yn berffaith i arweinwyr newydd neu’r rheini sydd am fod yn arweinwyr sydd eisiau teimlo’n fwy hyderus, penderfynol ac effeithiol yn eu rôl. 

ARCHEBWCH YMA

Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu

Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:

  • Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
  • Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
  • Cyrhaeddwch 5-10 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
  • Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl.
  • Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
  • Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
  • Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).

Angen help neu ragor o wybodaeth?