Rhaglen gynefino yw F4S3 ar gyfer pobl sydd wedi dechrau gweithio yn y sector gwirfoddol yn ddiweddar; newydd-ddyfodiaid, graddedigion diweddar, y rheini sydd wedi newid gyrfa neu’r rheini sydd wedi gwirfoddoli am 18 mis neu lai.
Bydd y cwrs yn rhoi dealltwriaeth lawn i chi o sut mae’r sector gwirfoddol yn gweithio ac mae’n cynnwys:
- Deall y sector
- Eiriolaeth
- Gweithrediadau
- Sgiliau sector gwirfoddol
CYNNWYS Y RHAGLEN
Mae’r rhaglen yn cynnwys pedwar gweithdy, gyda phedair gweminar fach wedi’u recordio a phedair gweminar fyw awr o hyd ar ôl hynny. Mae wedi’i dylunio i annog dysgwyr i gynnwys yr hyn a ddysgir yn y gweithdai yn eu gwaith bob dydd drwy enghreifftiau ymarferol, astudiaethau achos, gwaith ymchwil a chyflwyniadau. Wrth i ddysgwyr gwblhau pob lefel o’r rhaglen, byddant yn ennill bathodyn digidol.
Gweithdy 1: Tirwedd y sector gwirfoddol
3 & 11 Mai 2022 – Zoom | 9.30 am a 1 pm
Nod y gweithdy hwn yw rhoi trosolwg o nodweddion mudiadau cymdeithas sifil. Erbyn diwedd y gweithdy hwn, byddwch chi’n deall:
- Terminoleg gyffredin
- Strwythurau nodweddiadol mudiadau
- Cyd-destun rheoleiddiol
- Graddfa ac amrywiaeth y sector
- Y seilwaith cymorth a chyllido sydd ar gael
Gweminar 1: Fy mudiad o fewn y sector ehangach
16 Mai 2022 – Zoom | 2 pm – 3 pm
Gweithdy 2: Polisi cyhoeddus ac eiriolaeth
19 a 23 Mai 2022 – Zoom | 9.30 am a 1 pm
Nod y gweithdy hwn yw rhoi trosolwg i chi o rôl eirioli mudiadau cymdeithas sifil. Erbyn diwedd y gweithdy hwn, byddwch chi’n deall:
- Y derminoleg sy’n gysylltiedig â llunio polisïau ac eirioli
- Sut mae polisïau cyhoeddus yn cael eu datblygu a’u rhoi ar waith
- Ymgyrchoedd eirioli
- Gofynion rheoleiddiol o ran lobïo
Gweminar 2: Gofyniad eirioli mawr fy mudiad
26 Mai 2022 – Zoom | 2 pm – 3 pm
Gweithdy 3 – Sgiliau proffesiynol sydd eu hangen i weithio yn y sector gwirfoddol
30 Mai a 7 Mehefin 2022 – Zoom | 9 am a 1 pm
Nod y gweithdy hwn yw rhoi trosolwg i chi o’r sgiliau angenrheidiol i weithredu mewn mudiad gwirfoddol proffesiynol. Erbyn diwedd y gweithdy hwn, byddwch chi’n gallu:
- Adnabod strwythurau rheoli ac adrodd
- Deall sgiliau rheoli prosiect a rheoli amser sylfaenol
- Deall sgiliau ysgrifennu adroddiadau sylfaenol
- Deall trefniadau gweithio amlasiantaeth
- Ymgysylltu â grwpiau targed a grwpiau sy’n agored i niwed
Gweminar 3: Fy mudiad a dulliau gweithredu
10 Mehefin 2022 – Zoom | 2 pm – 3 pm
Gweithdy 4: Sgiliau personol sydd eu hangen i weithio yn y sector gwirfoddol
13 a 16 Mehefin 2022 – Zoom | 9 am a 1 pm
Nod y gweithdy hwn yw rhoi trosolwg i chi o’r sgiliau datblygu personol sydd eu hangen i weithio yn y sector. Erbyn diwedd y gweithdy hwn, byddwch chi’n dysgu:
- Sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol
- Sgiliau hwyluso a negodi
- Sgiliau cyflwyno
- Hunanofal a llesiant yn y gwaith
Gweminar 4: Fy mudiad a datblygiad personol
23 Mehefin 2022 – Zoom | 2 pm – 3 pm
SUT I GYMRYD RHAN – ASTUDIAETH BEILOT
Bydd y rhaglen hyfforddi beilot yn cael ei chyflwyno yn rhad ac am ddim yng Nghymru (Mai/Mehefin). I gadw lle ar y rhaglen, anfonwch e-bost at training@wcva.cymru. Dyddiad cau: dydd Gwener 8 Ebrill 2022.
Mae lleoedd yn gyfyngedig a chânt eu dyrannu ar ôl y dyddiad cau. Byddwn ni’n gofyn i chi gadarnhau y gallwch chi ymrwymo i gwblhau’r holl fodiwlau ac asesiadau, sy’n cynnwys pedwar gweithdy, gyda phedair gweminar fach wedi’u recordio a phedair gweminar fyw awr o hyd ar ôl hynny. Bydd angen i chi gwblhau asesiadau cyn mynychu’r gweminarau byw.
I gael rhagor o wybodaeth am brosiect F4S3, ewch i’n gwefan.