Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan – cofrestrwch ar ein rhestr bostio i fod y cyntaf i glywed.
Cyflwynir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg
Nod
Bydd y sesiwn yn rhoi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth, y sgiliau, a’r hyder angenrheidiol er mwyn gweithredu cyd-gynhyrchu yn llwyddiannus. Bydd trafodaethau grwpiau bach yn galluogi cyfranogwyr i rannu eu gwybodaeth a’u profiad ac i ddefnyddio ymagwedd greadigol sy’n seiliedig ar asedau at gynllunio strategol.
Cynnwys
Mae’r hyfforddiant theori ac ymarferol hynod ryngweithiol hwn yn cynnwys cyflwyniadau, astudiaethau achos, ymarferion, trafodaethau grŵp bach a thrafodaethau grŵp cyfan, a chyfleoedd Holi ac Ateb.
Bydd Rhan 1 yn cynnwys:
- Beth yw cyd-gynhyrchu.
- Pam cyd-gynhyrchu: diben, gwerth, ac effaith.
- Cryfderau ac Asedau.Beth rydych chi’n ei wneud eisoes?
- Pryd i gyd-gynhyrchu. Sbectrwm ymgysylltu a theori cymhlethdod.
Mae Rhan 2 yn canolbwyntio ar ymarferoldeb ei roi ar waith. Bydd yn cynnwys:
- Sut i gyd-gynhyrchu. Technegau, adnoddau a methodoleg gyd-ddylunio.
- Gwerthuso cyd-gynhyrchiant. Allbynnau a Chanlyniadau a mesur yr hyn sy’n bwysig.
- Cyd-gynhyrchu a chi. Beth ygallenni ei wneud? Pa wahaniaeth y gallen ni ei wneud?
Canlyniadau Dysgu
Erbyn diwedd y cwrs byddwch chi’n gallu:
- Deall egwyddorion cyd-gynhyrchu
- Deall yr effaith bosibl o ran gweithio yn y ffordd hon
- Deall pryd y gall cyd-gynhyrchu gael ei ddefnyddio’n fwyaf effeithiol
- Deall yr adnoddau gweithredu, y technegau, a’r dulliau
- Deall yr wybodaeth sylfaenol ar gyfer gwerthuso cyd-gynhyrchiant
- Ystyried sut y gall yr egwyddorion hyn gael eu cymhwyso yng nghyd-destun eu mudiadau penodol
Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn
Mae’r hyfforddiant hwn yn addas i bobl ag amrywiaeth o lefelau o wybodaeth am gyd-gynhyrchu neu’n meddu ar ddim gwybodaeth amdano. Caiff ei anelu’n bennaf at reolwyr a staff rheng flaen a fydd yn gyfrifol am weithredu ymagwedd gyd-gynhyrchu a bydd yn cynnwys cyfleoedd i ystyried y potensial ar gyfer cyd-gynhyrchu yng nghyd-destun eich mudiad a’r rhwystrau rhag ei ddefnyddio. Gall hefyd fod o fudd i gynnwys partneriaid ac aelodau o’r cymunedau rydych chi’n eu cefnogi: gan ddangos yr ethos pawb gyda’i gilydd sy’n sail i gyd-gynhyrchu.
Gellir cyflwyno ein holl gyrsiau pwrpasol a’u teilwra i ddiwallu anghenion eich mudiad. Cwblhewch ein ffurflen gais hyfforddiant pwrpasol a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi. Am unrhyw ymholiadau eraill e-bostiwch training@wcva.cymru.