5, 6, a 18 Hydref 2022 | 10 am – 4 pm | Caerdydd
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
Amcanion
Rhoi gwybodaeth, sgiliau a hyder i chi gynllunio, paratoi a chyflwyno sesiynau hyfforddi.
Wedi’i achredu gan Agored Cymru, lefel tri, chwe chredyd.
Cynnwys
Oes yna bwnc y byddech wrth eich bodd yn ei ddysgu i eraill, ond rydych yn brin o hyder? Neu efallai’ch bod yn mwynhau rhannu’ch gwybodaeth ond am sicrhau’ch bod yn gwneud hynny mewn ffordd sydd wir yn ennyn diddordeb pobl.
Bydd y cwrs tridiau hwn, sydd wedi’i achredu, yn rhoi trosolwg i chi o ddamcaniaeth dysgu, yn rhannu dulliau cynllunio ar gyfer cyflwyno a gwerthuso hyfforddiant, ac yn eich helpu i ddatblygu eich hyder i ddylunio a chyflwyno sesiynau hyfforddi.
I ennill yr achrediad bydd angen i chi ymrwymo rhywfaint o amser i gwblhau’r asesiad ysgrifenedig ac i baratoi sesiwn hyfforddi, y byddwch yn cyflwyno rhan ohoni o flaen cyfranogwyr eraill y cwrs ar y trydydd diwrnod.
Dyma un o’n cyrsiau mwyaf poblogaidd, a gyflwynir gan ein hyfforddwyr profiadol a fydd yn rhoi cefnogaeth i chi yn ystod y broses asesu – archebwch yn gynnar i sicrhau’ch lle.
Canlyniadau dysgu
Ar ôl mynychu’r cwrs hwn a chwblhau’r gwaith asesu, byddwch yn:
- Deall sut i gysylltu hyfforddiant ag anghenion y dysgwyr
- Gallu nodi nod, amcanion a chanlyniadau dysgu ar gyfer targedau y cytunwyd arnynt
- Gallu cynllunio, dylunio a chyflwyno sesiwn hyfforddi gan ddefnyddio dulliau hyfforddi priodol
- Deall sut i ymgysylltu â dysgwyr
- Deall sut i reoli amgylchedd dysgu yn effeithiol
- Gallu monitro cynnydd dysgwyr a gwerthuso hyfforddiant
- Gallu adlewyrchu ar eich arferion hyfforddi eich hun
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Mae’r cwrs hwn ar gyfer y rheini sy’n newydd i’r byd hyfforddi a/neu efallai sydd wedi ymgymryd â rôl hyfforddi yn eu mudiad am y tro cyntaf
Rhagor o wybodaeth
Codir ffi cofrestru o £21 y pen ar y rheini sy’n cofrestru i gwblhau’r asesiad Agored Cymru.
Gellir cyflwyno ein holl gyrsiau wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer anghenion eich mudiad. Cysylltwch os hoffech drafod hyn ymhellach.