Dydd 1 – 24 Chwefror 2026
Dydd 2 – 25 Chwefror 2026
Dydd 3 – 24 Mawrth 2026
10 am – 4 pm | Caerdydd
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
3 x sesiwn 6 awr / ystafell ddosbarth
Amcanion
Achrededig gan Agored Cymru
Eich galluogi i ddeall rôl yr hwylusydd, gan hybu’ch sgiliau presennol a dysgu sgiliau a thechnegau hwyluso amrywiol i chi.
Cynnwys
Ydych chi erioed wedi bod mewn cyfarfod sy’n teimlo fel pe bai’n llithro’n raddol allan o reolaeth? Neu sesiwn lle mae’ch agenda wedi’i gadael yn chwifio megis baner wen yn y gwynt tra mae dau o’ch cyfranogwyr yn dadlau?
Bydd ein cwrs Hwyluso Effeithiol achrededig yn eich helpu i ddatblygu sesiynau cyfranogol strwythuredig a phwrpasol, lle gallwch ysgogi trafodaeth a chynnal yr awdurdod angenrheidiol i gael yr atebion y mae arnoch eu hangen.
Byddwch yn dod i ddeall rôl yr hwylusydd, yn dysgu i gynllunio a rhedeg digwyddiadau a hwylusir yn effeithiol, yn dysgu ac yn ymarfer ystod o dechnegau hwyluso gan gynnwys adeiladu consensws, technegau cwestiynu, dulliau pleidleisio a graddio. Bydd y cwrs hefyd yn ystyried pendantrwydd a sut i reoli gwrthdaro a sefyllfaoedd anodd.
Bydd yn gwrs cyfranogol lle caiff cyfranogwyr y cyfle i ystyried ac ymarfer hwyluso mewn amgylchedd dysgu diogel.
Canlyniadau dysgu
Ar ôl mynychu’r cwrs yma byddwch yn gallu…
- Disgrifio egwyddorion o gyfranogi, hwyluso ac adeiladu consensws yn effeithiol
- Gwerthuso sgiliau allweddol a gwerthoedd a ddefnyddir mewn hwyluso
- Rhoi technegau adeiladu consensws ar waith
- Gweithredu ystod o dechnegau cwestiynu
- Dangos amrywiaeth o dechnegau pleidleisio a graddio
- Nodi ffyrdd i fod yn fwy pendant
- Deall ffyrdd i ddelio â gwrthdaro a sefyllfaoedd anodd
- Gwybod ble i gael gafael ar adnoddau ychwanegol
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Caiff y cwrs hwn ei anelu at y rheini sydd am ddatblygu a gwella eu sgiliau hwyluso i’w galluogi i hwyluso cyfarfodydd a digwyddiadau yn effeithiol gyda dinasyddion, cymunedau, colegau a phartneriaethau.
Rhagor o wybodaeth
Codir ffi cofrestru o £21 y pen ar y rheini sy’n cofrestru i gwblhau’r asesiad Agored Cymru.
Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu
Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:
- Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
- Cyrhaeddwch 15 munud yn gynnar.
- Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
- Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
- Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).
UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad
Angen help neu ragor o wybodaeth?
- Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Sector Gwirfoddol gydag CGGC? Gwiriwch yma.
- Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Ymgysylltiedig gydag CGGC? Gwiriwch yma.
- Rydym yn cynnig cyrsiau pwrpasol sydd wedi’u dylunio o gwmpas anghenion eich mudiad. Llenwch ein ffurflen ‘cais am hyfforddiant pwrpasol’ ac fe wnawn ni gysylltu â chi.
- Cliciwch yma i gael eich ychwanegu at y rhestr aros.
- Os oes gennych chi unrhyw ymholiad arall, anfonwch e-bost at bookings@wcva.cymru.
- Gallwch chi gofrestru ar ein rhestr bostio i dderbyn diweddariadau bob wythnos/mis.