Dim ond wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer cwsmer y caiff y cwrs hwn ei ddarparu – nid yw ar gael ar ein rhaglen hyfforddi gyhoeddus. Cysylltwch â ni am drafodaeth anffurfiol am eich anghenion dysgu.
Hoffech chi wella eich dysgu drwy fyfyrio ar faterion gwaith cyfredol gyda chydweithwyr? Mae Setiau Dysgu Gweithredol yn cynnig y cyfle hwn mewn amgylchedd diogel a chadarnhaol.
Yn ystod y pedair sesiwn hanner diwrnod byddwch yn dysgu beth yw Setiau Dysgu Gweithredol a sut i sefydlu un ar gyfer eich sefyllfa chi. Bydd y grŵp yn dod at ei gilydd fel Set Dysgu Weithredol go iawn, ble byddwch yn cefnogi eich gilydd trwy’r sesiynau ac fe fyddwch yn cael cyfle go iawn i roi’r theori ar waith. Mae’n ddull amhrisiadwy o gydweithio’n well.
Byddwn yn gwneud hyn drwy:
Egluro’r egwyddorion sydd ynghlwm â datblygu a hwyluso setiau dysgu gweithredol
Rhoi’r offer a’r technegau angenrheidiol i gyfranogwyr baratoi a hwyluso setiau dysgu gweithredol
Archwilio ffyrdd o fonitro a gwerthuso setiau dysgu gweithredol
Ymarfer yr uchod drwy gyfranogi mewn set dysgu gweithredol
Canlyniadau Dysgu
Erbyn diwedd y cwrs, bydd cyfranogwyr yn gallu:
- Disgrifio’r ffordd y mae setiau dysgu gweithredol yn gweithio
- Defnyddio’r sgiliau maent wedi’u dysgu i baratoi a datblygu set dysgu gweithredol
- Cynnig cymorth i eraill er mwyn paratoi set dysgu gweithredol
- Monitro a gwerthuso setiau dysgu gweithredo
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Ymarferwyr sydd am baratoi a hwyluso Setiau Dysgu Gweithredol
Hyd
4x sesiwn hanner diwrnod