pobl yn trafod wrth fwrdd

Rôl y swyddog diogelu

Categorïau: Llywodraethu a diogelu,

Mae’r hyfforddiant hwn yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd i ddod ag ef yn unol â’r safonau diogelu, hyfforddi a datblygu dysgu Cenedlaethol newydd. Os hoffech i ni gysylltu â chi unwaith y bydd yr hyfforddiant yn barod, cofrestrwch eich diddordeb yma

Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg

Amcan 

Darparu hyfforddiant manwl i swyddogion diogelu, arweinwyr diogelu, neu unigolyn diogelu dynodedig mewn mudiad. Bydd y cwrs hwn yn cefnogi ac yn cynorthwyo’r unigolyn dynodedig â chyfrifoldeb sylfaenol dros reoli diogelu ac adrodd pryderon am blant, pobl ifanc, ac oedolion mewn perygl, o ran y cyfrifoldebau, a’r gydymffurfiaeth gyfreithiol gan gynnwys rhannu’r polisi, gweithdrefnau, a’r prosesau diogelu ar draws y mudiad 

Cynnwys  

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod “Cyfrifoldeb ar bawb i ddiogelu”. Dylai diogelu fod yn flaenoriaeth i holl fudiadau’r sector gwirfoddol, yn enwedig y rhai sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion mewn perygl.  

Bydd y cwrs hwn yn helpu’r Swyddog Diogelu Dynodedig (DSO) i arwain ymagwedd y mudiad at ddiogelu plant, pobl ifanc, ac oedolion mewn perygl o fewn y mudiad. Bydd yn archwilio’r tasgau, y cyfrifoldebau, ac yn gwella sgiliau a gwybodaeth y Swyddog Diogelu Dynodedig i’w gefnogi i gyflawni ei rôl yn effeithiol.  

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y cwrs dylai cyfranogwyr fedru 

  • Disgrifio gwerthoedd ac egwyddorion craidd ar gyfer rôl swyddog diogelu  
  • Deall eu rôl o ran bodloni, gwella, a gwreiddio polisi, ymarferion, a gweithdrefnau diogelu yn eu mudiad 
  • Deall y ddeddfwriaeth a chanllawiau’r Llywodraeth sy’n sail i ddiogelu yng Nghymru  
  • Deall eu cyfrifoldebau o ran ymateb i faterion diogelu sy’n gysylltiedig â buddiolwyr, aelodau staff, neu wirfoddolwyr a chymhwyso sgiliau i reoli achosion o ymarfer gwael a cham-drin yn eu mudiad a’r tu allan iddo  
  • Dod o hyd i ystod eang o adnoddau a’u defnyddio yn eu mudiad 

Ar gyfer pwy mae’r cwrs? 

Darperir y cwrs ar gyfer unigolion â chyfrifoldeb diogelu dynodedig yn eu mudiad. Gallai hyn gynnwys: swyddogion diogelu dynodedig, arweinwyr diogelu, dirprwyon diogelu, rolau Adnoddau Dynol â chyfrifoldeb diogelu (y rhai sy’n gyfrifol am recriwtio staff ar gyfer rolau sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc, ac oedolion mewn perygl), ac unrhyw un sy’n penodi neu sy’n rheoli unigolion yn y rolau hyn. 

Ar ôl cwblhau’r cwrs, rhoddir tystysgrif presenoldeb i bob cyfranogwr.  

Gofynion y cwrs

Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y profiad gorau ar ein cyrsiau, gofynnwn y canlynol ohonoch chi;

  • Ymrwymwch i fynychu holl hyd yr hyfforddiant
  • Profwch eich mynediad i Zoom
  • Bydd yr hyfforddiant yn dechrau’n brydlon, cyrhaeddwch 10 munud cyn yr amser dechrau, oherwydd mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael eu gadael i mewn
  • Mae ein cyrsiau’n rhyngweithiol a chyfranogol a gofynnwn, lle’n bosibl, i’r holl ddysgwyr gael eu camerâu arno a chymryd rhan drwy’r cyfleusterau microffon a sgwrsio
  • Rhowch wybod i ni wrth gadw’ch lle os oes gennych chi unrhyw ofynion penodol, e.e. dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
  • Bydd copi dall o’r cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau yn cael ei anfon atoch gan bookings@wcva.cymru, gwiriwch eich ffolder e-bost sothach os nad ydych chi wedi’u derbyn wythnos cyn yr hyfforddiant (unrhyw broblemau, rhowch wybod i ni)
  • Os na allwch chi fynychu, anfonwch e-bost at training@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo)

I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma.

Gellir cyflwyno pob un o’n cyrsiau mewn modd pwrpasol wedi’u teilwra er mwyn diwallu anghenion eich mudiad. Llenwch ein ffurflen gais am hyfforddiant pwrpasol ac fe wnaiff aelod o’n tîm ni’n cysylltu â chi.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiad arall, anfonwch e-bost at training@wcva.cymruGallwch chi gofrestru ar ein rhestr bostio i dderbyn diweddariadau bob wythnos/mis.

UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad
Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n aelod, gwiriwch yma