Codi arian drwy unigolion

Codi arian drwy unigolion

Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan. I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma. 

Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg

2 x sesiwn 3 awr / ar-lein

Mae’r cwrs hwn yn rhan o gynnig hyfforddiant TSSW WCVA

Nod

Rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i ddysgwyr ddatblygu eu gallu i godi arian gan unigolion, trwy ddeall yr arferion rhoi gwahanol gan unigolion a deall beth sy’n cymell pobl i roi.

Cynnwys

Mae hwn yn gwrs rhagarweiniol i’r rheini sy’n newydd i roi unigol. Mae’n ymdrin â phwysigrwydd arferion rhoi unigolion, beth sy’n cymell pobl i roi ac yn helpu i ddatblygu strategaeth eich mudiad a’r achos dros gefnogi codi arian gan unigolion.

Sesiwn un

  • Cyflwyniadau a nodi agweddau cyfranogwyr at roi unigol.
  • Pam rhoi unigol?
  • Beth yw rhoi unigol – gwahaniaethu rhwng ffrydiau incwm codi arian gwahanol.
  • Gwahaniaethau rhwng gwahanol fathau o roi unigol ac unrhyw reolau perthnasol, e.e. Rhodd Cymorth, rhyddhad treth CthEF ar roddion trwy’r gyflogres, y gyfraith gamblo.
  • Ymarferiad ymarferol – buddion cyfatebol i’r mudiad, buddion i’r rhoddwr a’r ddeddfwriaeth gysylltiedig.

Bydd Sesiwn dau yn canolbwyntio mwy ar adnoddau allweddol, er enghraifft:

  • Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd a Bygythiadau (SWOT) – beth yw sefyllfa eich mudiad – beth yw’r ffrydiau incwm gorau o ran rhoi unigol i’w datblygu yn eich mudiad.
  • Deall adnoddau a chynllunio pa fuddsoddiad sydd ei angen i ddatblygu rhoi unigol.
  • Gwybod pa gyflenwyr y gallai fod angen i chi eu defnyddio.
  • Sut i raeadru gwybodaeth i’ch ymddiriedolwyr.
  • Cyfeirio at adnoddau ehangach.

Canlyniadau Dysgu 

Erbyn diwedd y sesiwn hon, bydd dysgwyr yn:

  • Deall beth yw ‘rhoi unigol’
  • Deall y gwahanol fathau o roi unigol
  • Datblygu adnoddau amrywiol i gefnogi cynllunio effeithiol
  • Gwybod sut i lunio cynllun rhoi unigol
  • Gwybod ble i ddod o hyd i adnoddau ychwanegol i gefnogi eu dysgu.

bwy mae’r cwrs? 

Y rheini sy’n newydd i roi unigol ac yn edrych am gyflwyniad i’r pwnc.

Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu

Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:

  • Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
  • Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
  • Cyrhaeddwch 5-10 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
  • Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl.
  • Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
  • Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
  • Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).

UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad

Angen help neu ragor o wybodaeth?