two colleagues talking

Rhoi a derbyn adborth

10 Mehefin 2026
10 am – 1 pm | Ar-lein

Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg

1 x sesiwn 3 awr / ar-lein

Cyflwynir gan Eileen Murphy

Amcanion

Rhoi’r adnoddau i gyfranogwyr roi adborth yn hyderus.

Cynnwys

Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn cyflwyno cyfranogwyr i egwyddorion rhoi a derbyn adborth. Bydd yn cynnig strategaethau ar gyfer rhoi adborth clir yn hyderus.

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu:

  • Nodi egwyddorion adborth effeithiol
  • Deall gwerth adborth effeithiol
  • Defnyddio technegau cynnig adborth
  • Cymryd adborth yn well

Ar gyfer pwy mae’r cwrs

Yn ddelfrydol i reolwyr ar bob lefel, gan gynnwys rheolwyr gwirfoddolwyr.

Dewch i ddatgloi hanfodion hunanreoli ac arweinyddiaeth gyda’r hyfforddiant cynhwysfawr ar-lein hwn. Mae’r rhaglen wyth modiwl hon wedi’i chynllunio i’ch helpu chi i fynd ati’n effeithiol i ysgogi, rheoli a chefnogi eraill i gyrraedd nodau eich mudiad.

Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu

Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:

  • Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
  • Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
  • Cyrhaeddwch 5-10 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
  • Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl.
  • Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
  • Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
  • Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).

Angen help neu ragor o wybodaeth?