11 Gorffennaf 2022 | 9.30 am – 12.30 pm
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
Nod
Nod y cwrs yw gwella gallu pobl i nodi, asesu a rheoli risgiau mewn mudiad.
Cynnwys
Yn y cwrs hwn, byddwn ni’n edrych ar reoli risg a’i gydberthynas â gwell llywodraethu a chynlluniau gweithredol a phenderfyniadau.
Canlyniadau dysgu
- Deall egwyddorion nodi, asesu a rheoli risg mewn mudiad – gan gynnwys risgiau strategol a gweithredol
- Edrych ar sut rydyn ni’n ymwneud â risg a’i heffaith wrth wneud penderfyniadau
- Edrych ar ddiwylliant risg a sut i ddylanwadu arno
- Deall sut i lunio adroddiad ar gofrestr risg
I bwy mae’r cwrs
Mae’r cwrs hwn yn briodol ar gyfer ymddiriedolwyr, rheolwyr a rheolwyr prosiect.