10, 17 & 24 Tachwedd 2022 | 9.30 am – 12.45 pm
Cyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg
Amcanion
Bydd y cwrs hwn yn rhoi gwybodaeth a sgiliau ymarferol i chi ar reoli prosiect fel y gallwch gynllunio a chyflenwi prosiectau sy’n llwyddo i fodloni amcanion eich prosiect.
Cynnwys
Bydd y cwrs ar-lein hwn yn eich tywys drwy amrediad o egwyddorion ac offer rheoli prosiect, gan ganolbwyntio’n gryf ar ddatblygu eich sgiliau ar gyfer sefydlu, rheoli a goruchwylio prosiect.
Bydd y cwrs wedi’i rannu’n dri gweithdy ar-lein rhyngweithiol ac yn cynnwys cyflwyniadau, gwaith grŵp bach, trafodaethau a gwaith unigol. Bydd yr hyfforddiant yn cael ei gefnogi gan sleidiau PowerPoint a set lawn o daflenni a thempledi rheoli prosiect.
Canlyniadau dysgu
- Deall y camau wrth ddatblygu prosiect
- Gwerthfawrogi sut i ysgrifennu dogfen cychwyn prosiect
- Gallu cynllunio eich fframwaith monitro a gwerthuso
- Gallu ysgrifennu nodau, amcanion, allbynnau a chanlyniadau prosiect
- Deall sut i ymhél â phartneriaid a rhanddeiliaid prosiect
- Gwybod sut i nodi a dadansoddi risgiau a phroblemau prosiect
- Gallu cynllunio ar gyfer argyfyngau posibl a rhoi mesurau lliniaru ar waith
- Gallu cynllunio strategaethau ar gyfer olyniaeth a strategaeth ymadael
- Gallu gwerthuso’r prosiect yn ei gyfanrwydd a chwblhau’r adroddiad gwerthuso
- Myfyrio ar eich sgiliau rheoli prosiect eich hun
- Edrych ar gael y gorau o’r tîm prosiect
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Mae’r cwrs hwn yn addas i bobl sy’n gallu siarad Cymraeg, a byddwn ni’n cyflwyno termau yn Gymraeg a Saesneg i’r rheini sy’n gweithio gyda rhanddeiliaid yn y ddwy iaith.
Hyforddwr
Llio Elgar
Gellir cyflwyno ein holl gyrsiau wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer anghenion eich mudiad. Cysylltwch os hoffech drafod hyn ymhellach.