15, 22 & 29 Medi 2022 | 9.30 am – 12.45 pm
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
Amcanion
Bydd y cwrs hwn yn rhoi gwybodaeth a sgiliau ymarferol i chi ar reoli prosiect fel y gallwch gynllunio a chyflenwi prosiectau sy’n llwyddo i fodloni amcanion eich prosiect.
Cynnwys
Bydd y cwrs ar-lein hwn yn eich tywys drwy amrediad o egwyddorion ac offer rheoli prosiect, gan ganolbwyntio’n gryf ar ddatblygu eich sgiliau ar gyfer sefydlu, rheoli a goruchwylio prosiect.
Bydd y cwrs wedi’i rannu’n dri gweithdy ar-lein rhyngweithiol ac yn cynnwys cyflwyniadau, gwaith grŵp bach, trafodaethau a gwaith unigol. Bydd yr hyfforddiant yn cael ei gefnogi gan sleidiau PowerPoint a set lawn o daflenni a thempledi rheoli prosiect.
Canlyniadau dysgu
- Gweithdy 1:
1. Deall y camau wrth ddatblygu prosiect
2. Gwerthfawrogi sut i ysgrifennu dogfen cychwyn prosiect
3. Gallu cynllunio eich fframwaith monitro a gwerthuso
4. Gallu ysgrifennu nodau, amcanion, allbynnau a chanlyniadau prosiect - Gweithdy 2:
1. Deall sut i ymhél â phartneriaid a rhanddeiliaid prosiect
2. Gwybod sut i nodi a dadansoddi risgiau a phroblemau prosiect
3. Gallu cynllunio ar gyfer argyfyngau posibl a rhoi mesurau lliniaru ar waith - Gweithdy 3:
1. Gallu cynllunio strategaethau ar gyfer olyniaeth a strategaeth ymadael
2. Gallu gwerthuso’r prosiect yn ei gyfanrwydd a chwblhau’r adroddiad gwerthuso
3. Myfyrio ar eich sgiliau rheoli prosiect eich hun
4. Edrych ar gael y gorau o’r tîm prosiect
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Mae’r cwrs hwn i unrhyw un sydd â chyfrifoldeb dros ddatblygu a rheoli prosiectau fel rhan o’i waith bob dydd. Bydd angen i chi ddod â syniad cyfredol neu bosibl am brosiect gyda chi i’r cwrs.
Hyforddwr
Eileen Murphy
Gellir cyflwyno ein holl gyrsiau wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer anghenion eich mudiad. Cysylltwch os hoffech drafod hyn ymhellach.