Cydweithwyr mewn cyfarfod

Rheoli llinell gan ddefnyddio dulliau hyfforddi

Dydd 1 – 3 Mawrth 2026
Dydd 2 – 4 Mawrth 2026
10 am – 4 pm | Bae Colwyn

Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg

2 x sesiwn 6 awr / ystafell ddosbarth

Amcanion

Rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r offer sydd eu hangen arnoch i reoli llinell gan ddefnyddio dulliau hyfforddi.

Cynnwys

Mae’r cwrs hwn yn mynd ati’n ymarferol i ymdrin â rheoli llinell ar sail technegau hyfforddi sy’n cynnig golau (her) a chynhesrwydd (cymorth) yn y gydberthynas rhwng y rheolwr a’r aelod staff neu wirfoddolwyr. Byddwch chi’n cael yr wybodaeth, y sgiliau a’r adnoddau i’ch galluogi chi i gael ‘sgwrs hyfforddi’ bositif, rymusol ac effeithiol. Bydd y rhain yn sgiliau trosglwyddadwy y gallwch eu defnyddio mewn lliaws o gyd-destunau gwahanol.

Bydd y pynciau yr ymdrinnir â nhw yn cynnwys modelau hyfforddi, gosod nodau, gwrando gweithredol, gofyn cwestiynau craff, rhoi adborth a chynnwys her, a meithrin a chynnal llesiant yn y gwaith.

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y cwrs, bydd cyfranogwyr wedi dysgu/yn gallu:

  • Defnyddio sgiliau ac egwyddorion hyfforddi wrth reoli llinell
  • Deall modelau hyfforddi gwahanol
  • Defnyddio sgiliau hyfforddi’n hyderus – gosod nodau, gwrando’n weithredol, gofyn cwestiynau craff, rhoi adborth a chynnwys her
  • Cael dealltwriaeth well o sut i rymuso pobl i ysgwyddo cyfrifoldeb a gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain
  • Defnyddio dulliau hyfforddi mewn cyd-destunau gwaith gwahanol, e.e. goruchwyliaeth
  • Gweithredu strategaethau ar gyfer meithrin a chynnal llesiant yn y gwaith.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs

Mae’r cwrs hwn i reolwyr ar bob lefel o fudiad, gan gynnwys rheolwyr gwirfoddolwyr.

Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu

Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:

  • Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
  • Cyrhaeddwch 15 munud yn gynnar
  • Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
  • Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
  • Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).

UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad

Angen help neu ragor o wybodaeth?