Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan – cofrestrwch ar ein rhestr bostio i fod y cyntaf i glywed.
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
Amcanion
Rhoi’r dulliau a’r technegau i chi reoli’ch amser yn fwy effeithiol, yn y gwaith a gartref.
Cynnwys
Mae amser yn werthfawr, yn enwedig wrth weithio yn y trydydd sector. Pan fo pob eiliad a dreulir yn cael ei adrodd a’i ddadansoddi, mae’n hawdd teimlo’ch bod yn colli gafael ar y dydd. Os ydych erioed wedi aros y tu allan i gyfarfod yn gwylio’ch mewnflwch yn llenwi ar eich ffôn, wedi anwybyddu galwadau, wedi meddwl sut nad ydych wedi llwyddo i groesi dim byd oddi ar eich rhestr waith heddiw…efallai fod angen i chi dreulio amser yn ad-drefnu’ch blaenoriaethau.
Bydd y cwrs hwn o gymorth i chi ddeall yn well sut rydych yn rheoli amser, yn bersonol ac yn broffesiynol, gan roi’r dulliau a’r technegau i chi fod yn fwy effeithiol. Ymysg y pynciau fydd:
- Eich ffordd bersonol o reoli amser
- Cydbwyso gwaith sydd wedi’i gynllunio a gofynion annisgwyl
- Yr ebyst enbyd!
- Creu’r amgylchedd cywir
Canlyniadau dysgu
Drwy gwblhau’r rhaglen, bydd gennych:
- Yn fwy ymwybodol o’ch ffordd bersonol o reoli amser
- Yn gallu defnyddio technegau yn well i reoli’ch amser yn fwy effeithiol
- Yn gallu rheoli ebyst yn well
- Yn gallu creu’r amgylchedd cywir i reoli amser
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Unrhyw un sydd am wella’r ffordd y mae’n rheoli ei amser ac yn blaenoriaethu ei waith.
Ynglŷn â’r hyfforddwr
Mae Mandy Williams yn ymgynghorydd, hyfforddwr, hwylusydd a chymhellwr llawrydd sy’n arbenigo mewn cyfranogi ac ymgysylltu, cyfathrebu, arwain, newid sefydliadol, ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a sgiliau bywyd.
A hithau’n Bennaeth Datblygu Busnes, Ymgynghori a Dysgu ac yn Bennaeth Cyfranogaeth Cymru yn WCVA rhwng Gorffennaf 2009 a Mawrth 2018, yn ogystal â chynnig ymgynghoriaeth lawrydd, dysgodd Mandy sut i reoli ei hamser yn effeithiol – ac mae hi bellach yn barod i rannu ei doethineb.
Gellir cyflwyno ein holl gyrsiau wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer anghenion eich mudiad. Cysylltwch os hoffech drafod hyn ymhellach.