Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan. I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma.
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
2 x sesiwn 3 awr / ar-lein
Amcanion
Mae’r cwrs hwn yn galluogi cyfranogwyr i bennu cost y gwasanaethau a ddarperir gan eu mudiad, a chynhyrchu a monitro cyllidebau a llif arian parod.
Cynnwys
Yn yr hinsawdd gyllido bresennol, yn anffodus rhaid i elusennau a mudiadau gwirfoddol eraill gystadlu am incwm i oroesi. Bydd unrhyw un sydd erioed wedi bod yn aflwyddiannus mewn cais am gyllid yn gwybod ei bod yn fwy hanfodol nag erioed i ddangos effeithiolrwydd cost a bod yn realistig yn eich ceisiadau am grant.
Bydd cyllidwyr eisiau gweld eich bod wedi ystyried pob cost a bod gennych strwythurau cadarn yn eu lle i drefnu’ch cyllidebau er mwyn cadw cofnod o bob ceiniog.
Gall y cwrs hyfforddi hwn eich helpu i ddysgu sut i bennu cost eich gwasanaethau yn llawn a chynyddu’r siawns o sicrhau cyllid digonol i’ch mudiad.
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y cwrs bydd cyfranogwyr yn gallu:
Sesiwn 1 – 10am i 1pm
- Diffinio’r term “cost”.
- Dosbarthu costau i gostau sefydlog neu newidiol a chostau uniongyrchol neu anuniongyrchol.
- Disgrifio dulliau costio seiliedig ar amsugno, costau seiliedig ar weithgaredd a chostio ffiniol i ddelio â gorbenion.
Sesiwn 2 – 10am i 1pm
- Deall egwyddorion paratoi cyllideb.
- Llunio rhagolwg llif arian parod syml.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Staff neu ymddiriedolwyr sy’n ymwneud yn benodol â gweinyddu arian elusen.
Ynglŷn â’r hyfforddwr
Mae Shirley David BA Hon., Dip HE, MILM yn ymgynghorydd ac yn hyfforddwr rheoli sy’n gweithio’n gyfan gwbl yn y sector gwirfoddol. Ar ôl profiad rheoli amrywiol yn y gwasanaeth sifil a’r sector ariannol bu’n rheoli gwasanaeth hosbis yn y cartref cyn lansio Business & Employment Support & Training in 1998. Mae B.E.S.T yn gweithio gydag elusennau cofrestredig a mudiadau gwirfoddol ledled Cymru i ddarparu gwasanaethau hyfforddi ac ymgynghori gan ymdrin â chyllid, personél a materion llywodraethu cyffredinol.
Mae prosiectau ymgynghori wedi cynnwys adolygiadau ariannol, gwerthuso prosiectau ac adolygiadau personél, yn ogystal ag archwiliadau annibynnol o gyfrifon a mentora un wrth un. Mae Shirley David hefyd yn QuickBooks Proadvisor cofrestredig ar gyfer cynhyrchion bwrdd gwaith a chynhyrchion arlein.
Ymysg y cyrsiau hyfforddi sydd wedi’u datblygu a’u darparu i’r sector y mae Rheolaeth Ariannol Elusennau, Rheoli Personél Elusennau, Deddfwriaeth a Rheoli Gwirfoddolwyr, Sgiliau gyda Phobl (Delio gydag Ymddygiad Anodd), Cyfrifyddu SORP, Hanfodion Cadw Cyfrifon, Rheoli Arian a Risg, Hyfforddi Ymddiriedolwyr a Hyfforddiant Cydraddoldeb i Bobl Anabl. Mae gan Shirley hefyd gymhwyster lefel 3 yn Iaith Arwyddion Prydain ac wedi darparu cyrsiau yn benodol i bobl Fyddar, gan gynnwys Gofal i Gwsmeriaid ar gyfer Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain. Mae gan Shirley hefyd gymhwyster lefel 6 mewn Iaith Arwyddion Prydain, mae hi’n Ddehonglwr Iaith Arwyddion dan Hyfforddiant, ac mae hi wedi darparu cyrsiau yn benodol ar gyfer pobl fyddar.
Mae Shirley ei hun wedi bod yn gwirfoddoli drwy gydol ei bywyd oedolyn gan gynnwys sawl rôl ymddiriedolwr mewn elusennau megis Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro a Grŵp Brodyr a Chwiorydd Sir Benfro. Mae hi ar hyn o bryd yn Weithiwr Cymorth Cyfathrebu gwirfoddol yn y clwb Arwyddo a Rhannu yn Sir Benfro ac mae hi hefyd yn gwirfoddoli i weithgareddau ieuenctid ei heglwys leol.
Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu
Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:
- Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
- Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
- Cyrhaeddwch 5-10 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
- Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl.
- Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
- Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
- Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).
UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad
Angen help neu ragor o wybodaeth?
- Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Sector Gwirfoddol gydag CGGC? Gwiriwch yma.
- Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Ymgysylltiedig gydag CGGC? Gwiriwch yma.
- Rydym yn cynnig cyrsiau pwrpasol sydd wedi’u dylunio o gwmpas anghenion eich mudiad. Llenwch ein ffurflen ‘cais am hyfforddiant pwrpasol’ ac fe wnawn ni gysylltu â chi.
- Cliciwch yma i gael eich ychwanegu at y rhestr aros.
- Os oes gennych chi unrhyw ymholiad arall, anfonwch e-bost at bookings@wcva.cymru.
- Gallwch chi gofrestru ar ein rhestr bostio i dderbyn diweddariadau bob wythnos/mis.