Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan. I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma.
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
2 x sesiwn 3 awr / ar-lein
Amcanion
Mae’r cwrs hwn yn rhoi trosolwg o gyfrifoldebau rheolwyr neu ymddiriedolwyr sy’n ymwneud yn benodol â gweinyddu arian yn y sector gwirfoddol a sut i warchod eich mudiad rhag colled neu gamddefnydd ariannol.
Cynnwys
Pa mor hyderus ydych chi fod eich rheolaethau a’ch polisïau ariannol yn drylwyr, yn gadarn ac yn briodol? Dros y blynyddoedd diwethaf mae elusennau wedi cael sylw helaeth yn y cyfryngau am eu llithriadau ariannol, ond beth allwn ei ddysgu oddi wrth gamgymeriadau mudiadau eraill?
Mae ar bob elusen angen polisïau a gweithdrefnau ariannol effeithiol i alluogi i staff a gwirfoddolwyr weithio’n ddiogel ac yn effeithiol a lleihau perygl camreoli neu gamddefnyddio arian.
Bydd y cwrs hwn yn gyfle i chi ddysgu beth sy’n gallu a beth sydd wedi mynd o chwith mewn llefydd eraill fel y gallwch adolygu’ch arferion presennol a sefydlu arfer da.
Canlyniadau dysgu
Rhan 1
Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn gallu:
- Rhoi enghreifftiau o’r problemau ariannol a all godi
- Egluro’r gweithdrefnau sydd eu hangen ar gyfer rheolaethau ariannol digonol a phriodol mewn elusennau
- Rhoi enghreifftiau o arfer da mewn perthynas â rheolaethau ariannol
Rhan 2
Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn gallu:
- Deall ffactorau deddfwriaethol sy’n effeithio ar reolaethau a pholisïau ariannol
- Nodi’r polisïau a ddylai fod yn eu lle er mwyn rheoli arian elusen yn effeithiol
- Adolygu polisïau presennol yn erbyn fframwaith polisi sefydliadol
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Bydd y cwrs hwn o fudd i unrhyw ymddiriedolwr, cyfarwyddwr, neu weithiwr ariannol mewn mudiad gwirfoddol.
Ynglŷn â’r hyfforddwr
Mae Shirley David BA Anrh., Dip HE, MILM yn ymgynghorydd rheoli ac yn hyfforddwr sy’n gweithio’n arbennig yn y sector gwirfoddol. Ar ôl profiad rheoli amrywiol yn y gwasanaeth sifil ac yn y sector cyllid, bu’n rheoli gwasanaeth hosbis yn y cartref cyn lansio Business & Employment Support & Training ym1998. Mae B.E.S.T yn gweithio gydag elusennau cofrestredig a mudiadau gwirfoddol ar draws Cymru i ddarparu hyfforddiant a gwasanaethau ymgynghori sy’n canolbwyntio’n bennaf ar faterion cyllid a llywodraethu.
Ymhlith y prosiectau ymgynghori mae adolygiadau cyllid, gwerthusiadau prosiect, archwilio cyfrifon annibynnol, a mentora un i un. Mae Shirley David hefyd yn QuickBooks Proadvisor cofrestredig.
Ymhlith y cyrsiau hyfforddiant sy’n cael eu cyflenwi i’r sector gwirfoddol yn rheolaidd mae Rheoli Cyllid Elusennau, Cyfrifyddu SORP, Cadw Llyfrau ar Lefel Sylfaenol, Cyllid a Rheoli Risg, Hyfforddiant i Ymddiriedolwyr/Llywodraethu.
Mae Shirley wedi gwirfoddoli mewn nifer o rolau drwy gydol ei bywyd gan gynnwys bod yn ymddiriedolwr Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro a Grŵp Brodyr a Chwiorydd Sir Benfro, gweithiwr plant mewn eglwys leol, a thywysydd dall a byddar gyda Sense.
Mae Shirley hefyd yn Ddehonglwr Iaith Arwyddion dan Hyfforddiant cofrestredig ac mae hi wedi cyflenwi hyfforddiant a chymorth ymgynghori i nifer o fudiadau B/byddar e.e. ABSLTA, Deaf Access Cymru, Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain. Ar hyn o bryd, mae hi’n rhan o Glwb Arwyddo a Rhannu yn Sir Benfro gan godi incwm grant a threfnu teithiau a digwyddiadau.
Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu
Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:
- Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
- Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
- Cyrhaeddwch 5-10 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
- Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl.
- Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
- Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
- Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).
UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad
Angen help neu ragor o wybodaeth?
- Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Sector Gwirfoddol gydag CGGC? Gwiriwch yma.
- Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Ymgysylltiedig gydag CGGC? Gwiriwch yma.
- Rydym yn cynnig cyrsiau pwrpasol sydd wedi’u dylunio o gwmpas anghenion eich mudiad. Llenwch ein ffurflen ‘cais am hyfforddiant pwrpasol’ ac fe wnawn ni gysylltu â chi.
- Cliciwch yma i gael eich ychwanegu at y rhestr aros.
- Os oes gennych chi unrhyw ymholiad arall, anfonwch e-bost at bookings@wcva.cymru.
- Gallwch chi gofrestru ar ein rhestr bostio i dderbyn diweddariadau bob wythnos/mis.