Recriwtio

Recriwtio a dethol yn hyderus 

Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan. I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma. 

Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg

1 x sesiwn 3 awr / ar-lein

Nod

Mae recriwtio staff yn gywir drwy fod yn effeithlon ac yn effeithiol yn hanfodol i fudiadau. Nod y cwrs ar-lein hanner diwrnod hwn yw adeiladu eich gwybodaeth a’ch hyder wrth recriwtio a dethol staff.

Cynnwys

Mae’r cwrs hyfforddi cyfranogol hwn yn canolbwyntio ar arferion da wrth recriwtio a dethol. Byddwn ni’n ymdrin â hanfodion recriwtio a dethol effeithiol yn ogystal â chynnig adnoddau a thechnegau a fydd yn rhoi hyder i chi.

Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys cyflwyniad, gwaith grŵp bach ac ymarferion myfyrgar, a gefnogir gan sleidiau PowerPoint a set lawn o daflenni.

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd yr hyfforddiant, bydd cyfranogwyr By the end of the training participants will:

  • Wedi cael trosolwg o’r gyfraith sy’n ymwneud â recriwtio a dethol
  • Yn gallu cynllunio proses recriwtio strwythuredig
  • Wedi myfyrio ar bwy maen nhw’n chwilio amdano – cael y disgrifiad swydd a manyleb yr unigolyn yn gywir
  • Wedi edrych ar ddulliau asesu a dethol effeithiol
  • Yn deall sut i gael y gorau o gyfweliadau recriwtio, drwy ddefnyddio cwestiynau mewnweledol

I bwy mae’r cwrs

Mae’r cwrs hwn i bobl sy’n newydd i’r byd recriwtio neu’r rheini sydd angen diweddariad.

Gofynion y cwrs

Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y profiad gorau ar ein cyrsiau, gofynnwn y canlynol ohonoch chi;

  • Ymrwymwch i fynychu holl hyd yr hyfforddiant
  • Profwch eich mynediad i Zoom
  • Bydd yr hyfforddiant yn dechrau’n brydlon, cyrhaeddwch 10 munud cyn yr amser dechrau, oherwydd mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael eu gadael i mewn
  • Mae ein cyrsiau’n rhyngweithiol a chyfranogol a gofynnwn, lle’n bosibl, i’r holl ddysgwyr gael eu camerâu arno a chymryd rhan drwy’r cyfleusterau microffon a sgwrsio
  • Rhowch wybod i ni wrth gadw’ch lle os oes gennych chi unrhyw ofynion penodol, e.e. dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
  • Bydd cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau yn cael eu hanfon drwy LUMA, ein ap bwcio ar-lein, sicrhewch fod hysbysiadau gan LUMA wedi’u galluogi er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf
  • Os na allwch chi fynychu, anfonwch e-bost at training@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo)

I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma.

Gellir cyflwyno pob un o’n cyrsiau mewn modd pwrpasol wedi’u teilwra er mwyn diwallu anghenion eich mudiad. Llenwch ein ffurflen gais am hyfforddiant pwrpasol ac fe wnaiff aelod o’n tîm ni’n cysylltu â chi.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiad arall, anfonwch e-bost at training@wcva.cymruGallwch chi gofrestru ar ein rhestr bostio i dderbyn diweddariadau bob wythnos/mis.

UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad
Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n aelod, gwiriwch yma