Two colleagues talking / Dau gydweithiwr yn siarad

Recriwtio a chynefino ymddiriedolwyr

Categorïau: Arwain a rheoli,

8 Hydref 2026
10 am – 1 pm | Ar-lein

Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg

1 x sesiwn 3 awr / ar-lein

Nodau

Paratoi dysgwyr gyda’r sgiliau a’r wybodaeth i ddeall y broses o recriwtio ymddiriedolwyr yn effeithiol, i ddeall yr arferion da sy’n gysylltiedig â chynefino ymddiriedolwyr ac i allu rhoi prosesau recriwtio a chynefino ymddiriedolwyr effeithiol ar waith. 

Cynnwys

Mae hwn yn gwrs ar gyfer ymddiriedolwyr a swyddogion presennol sy’n gweithio gydag ymddiriedolwyr. Mae’n cwmpasu hanfodion recriwtio a chynefino ymddiriedolwyr yn effeithiol gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau, a dealltwriaeth o beth a olygir wrth ymarfer da. 

Canlyniadau Dysgu

Erbyn diwedd y sesiwn hon, bydd dysgwyr yn: 

  • Deall rolau a chyfrifoldebau bod yn ymddiriedolwr
  • Deall y broses o recriwtio ymddiriedolwyr yn effeithiol
  • Deall beth a olygir wrth ymarfer da 
  • Gallu rhoi prosesau recriwtio a chynefino ymddiriedolwyr effeithiol ar waith
  • Gwybod ble i ddod o hyd i adnoddau a chanllawiau perthnasol

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn 

Ymddiriedolwyr presennol, swyddogion sy’n gyfrifol am reoli bwrdd ac ymddiriedolwyr. Gellir addasu’r cwrs hwn ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd ac amserlenni. 

ARCHEBWCH LE YMA

UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad

Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu

Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:

  • Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
  • Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
  • Cyrhaeddwch 5-10 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
  • Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl.
  • Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
  • Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
  • Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).

Angen help neu ragor o wybodaeth?