dau gydweithiwr yn siarad

Rheoli eich hunan ac eraill – rhaglen wyth modiwl ar-lein

Dewch i ddatgloi hanfodion hunanreoli ac arweinyddiaeth gyda’r hyfforddiant cynhwysfawr ar-lein hwn. Mae’r rhaglen wyth modiwl hon wedi’i chynllunio i’ch helpu chi i fynd ati’n effeithiol i ysgogi, rheoli a chefnogi eraill i gyrraedd nodau eich mudiad.

Uchafbwyntiau’r cwrs:

  • Hyd: 3 awr y modiwl, ar-lein.
  • Wyth modiwl y gellir eu hastudio’n unigol neu fel cwrs cyflawn.
  • Cynnig arbennig: Archebwch le ar yr wyth modiwl a chael £50 o gredyd tuag at gwrs yn y dyfodol.
  • I bwy mae’r rhaglen hon: Yn ddelfrydol i reolwyr ar bob lefel, gan gynnwys rheolwyr gwirfoddolwyr.

Canlyniadau dysgu’r rhaglen:

  • Cael dealltwriaeth ddyfnach o sut i reoli eich hunan ac eraill.
  • Dysgu technegau ymarferol ar gyfer ysgogi timau a meithrin amgylchedd cynhyrchiol.
  • Meistroli sgiliau arweinyddiaeth hanfodol i yrru llwyddiant eich mudiad.

Hyfforddwyr: Mae gan Mandy Williams ac Eileen Murphy flynyddoedd o arbenigedd mewn rhoi hyfforddiant ar arweinyddiaeth a rheolaeth.

Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu

Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:

  • Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
  • Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
  • Cyrhaeddwch 5 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
  • Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl.
  • Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
  • Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
  • Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).

UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad

Angen help neu ragor o wybodaeth?

DATBLYGU MEDDYLFRYD TWF

Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan.
Cyflwynir gan Mandy Williams

Nod

Paratoi’r cyfranogwyr gyda’r wybodaeth a’r adnoddau i feithrin ffordd o feddwl am dwf.

Cynnwys

Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r adnoddau i chi feithrin ffordd o feddwl am dwf a fydd yn arwain at fwy o wydnwch, perfformiad personol gwell a’r gallu i groesawu newid mewn modd positif.

Canlyniadau Dysgu

Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn:

  • Deall cysyniad meddylfryd
  • Edrych ar fuddion meddylfryd twf
  • Datblygu cynllun gweithredu ar gyfer twf

GOSOD NODAU A GWERTHOEDD

Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan.
Cyflwynir gan Eileen Murphy

Nod

Rhoi’r adnoddau a’r strategaethau i chi osod nodau ystyrlon a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’ch gwerthoedd craidd.

Cynnwys

Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn rhoi’r adnoddau a’r strategaethau i chi osod nodau ystyrlon a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’ch gwerthoedd craidd. Trwy hunanfeirniadu, trafod a gwneud ymarferion ymarferol, byddwch yn cael map ffordd clir ar gyfer cyflawni eich dyheadau personol a phroffesiynol.

Canlyniadau Dysgu

Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn gallu:

  • Diffinio gwerthoedd craidd
  • Gosod a chyflawni nodau CAMPUS
  • Goresgyn rhwystrau a chadw’n gryf eich cymhelliad
  • Datblygu cynllun gweithredu ar gyfer llwyddiant

ADEILADU TÎM

25 Mawrth 2026, 9.30am tan 12.30pm
Cyflwynir gan Mandy Williams

Nod

Rhoi’r adnoddau a’r technegau i gyfranogwyr adeiladu a chynnal timau effeithiol.

Cynnwys

Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r adnoddau i chi adeiladu timau effeithiol. Trwy edrych ar gynhwysion timau effeithiol ac edrych ar ddynameg tîm, gallwch gynllunio datblygiad eich tîm.

Canlyniadau Dysgu

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu:

  • Deall beth sy’n gwneud tîm effeithiol
  • Edrych ar ddynameg tîm
  • Ystyried sut i ddatblygu siarter tîm
  • Gosod nodau datblygu tîm

DYLANWADU A GWLEIDYDDIAETH SEFYDLIADOL

29 Ebrill 2026, 10am tan 1pm
Cyflwynir gan Eileen Murphy

Nod

Rhoi’r adnoddau i gyfranogwyr lywio gwleidyddiaeth sefydliadol a chynyddu eich dylanwad.

Cynnwys

Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn cyflwyno’r cyfranogwyr i’r cysyniad o ddeallusrwydd gwleidyddol a sut i gael crebwyll gwleidyddol. Bydd y gweithdy yn rhoi’r wybodaeth a’r adnoddau i chi ddylanwadu’n well ar benderfyniadau a hybu cydweithio.

Canlyniadau Dysgu

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu:

  • Deall gwleidyddiaeth sefydliadol a sut i ddylanwadu
  • Edrych ar eich arddull dylanwadu eich hun
  • Cynllunio strategaethau i ddylanwadu a hybu cydweithio

ADNODDAU AR GYFER GWEITHIO MEWN GRŴP

30 Ebrill 2026, 9.30am tan 12.30pm
Cyflwynir gan Mandy Williams

Nod

Rhoi’r adnoddau sydd eu hangen ar gyfranogwyr i weithio’n effeithiol mewn grŵp.

Cynnwys

Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r adnoddau i chi hwyluso grŵp perfformio uchel mewn cyd-destunau amrywiol, gan ddefnyddio setiau dysgu gweithredol, arferion myfyriol a dynameg grŵp. Trwy gynnwys yr adnoddau hyn yn eich gwaith grŵp, gallwch greu amgylchedd cydweithredol a chynhyrchiol.

Canlyniadau Dysgu

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu:

  • Deall yr adnoddau gwahanol sydd ar gael ar gyfer gwaith grŵp
  • Edrych ar ddynameg grŵp
  • Cynllunio set dysgu gweithredol effeithiol
  • Defnyddio arferion myfyriol o fewn setiau dysgu gweithredol

ARWAIN TRWY NEWID

5 Mai 2026, 9.30am tan 12.30pm
Cyflwynir gan Mandy Williams

Nod

Rhoi’r adnoddau i gyfranogwyr reoli newid sefydliadol yn effeithiol.

Cynnwys

Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn cyflwyno cyfranogwyr i fodel ar gyfer newid, cyfle i fyfyrio ar y cyfnodau o newid y mae pobl yn mynd drwyddynt a’u hymatebion gwahanol. Bydd hefyd yn cynnig strategaethau ar gyfer rheoli newid yn effeithiol.

Canlyniadau Dysgu

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu:

  • Deall beth sy’n digwydd pan gaiff newid ei roi ar waith
  • Myfyrio ar ymatebion gwahanol pobl i newid a sut i’w rheoli
  • Ymdrin yn well â newid gan ddefnyddio strategaethau gwahanol

DIRPRWYO A’R DDAWN O DDWEUD NA

21 Mai 2026, 9.30am tan 12.30pm
Cyflwynir gan Eileen Murphy

Nod

Rhoi’r hyder a’r adnoddau i gyfranogwyr ddirprwyo’n dda. I ddysgu sut i ddweud na.

Cynnwys

Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn rhoi’r wybodaeth, yr adnoddau a’r hyder i chi ddirprwyo’n fwy effeithiol. Bydd hefyd yn cynnig tactegau ar sut i ddweud na mewn modd positif.

Canlyniadau Dysgu

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn:

  • Gallu deall sut rydym yn adeiladu ymddiriedaeth
  • Gallu dirprwyo’n hyderus
  • Gwybod sut i beidio â micro-reoli
  • Gwybod sut i ddweud na, a chynnig opsiynau eraill

RHOI A DERBYN ADBORTH

10 Mehefin 2026, 9.30am tan 12.30pm
Cyflwynir gan Eileen Murphy

Nod

Rhoi’r adnoddau i gyfranogwyr roi adborth yn hyderus.

Cynnwys

Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn cyflwyno cyfranogwyr i egwyddorion rhoi a derbyn adborth. Bydd yn cynnig strategaethau ar gyfer rhoi adborth clir yn hyderus.

Canlyniadau Dysgu

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu:

  • Nodi egwyddorion adborth effeithiol
  • Deall gwerth adborth effeithiol
  • Defnyddio technegau cynnig adborth
  • Cymryd adborth yn well