dau berson yn edrych ar CV

NEWYDD: Recriwtio ag arian cyfyngedig

Categorïau: Arwain a rheoli,

Modiwl 1 – 15 Medi 2026
Modiwl 2 – 30 Medi 2026
10 am – 1 pm | Ar-lein

Cyflwynir yn Saesneg 

Uchafbwyntiau’r cwrs: 

Cwrs ar-lein ymarferol wedi’i gynllunio i’ch helpu i ddenu ymgeiswyr a gwneud penderfyniadau recriwtio hyderus – wrth weithio o fewn adnoddau cyfyngedig.  

  • Hyd: 3 awr y modiwl, ar-lein.
  • Dau fodiwl y gellir eu gwneud yn unigol neu fel cwrs cyflawn. 
  • Ar gyfer pwy mae’r rhaglen hon: Mae’r cwrs hwn yn berffaith i unrhyw un sy’n gweithio yn y sector gwirfoddol sy’n ymwneud â recriwtio, yn enwedig y rheini sy’n gweithredu gyda chyllidebau neu adnoddau cyfyngedig.
  • Cyflwynir gan Henry Field 

Modiwl un: Denu ymgeiswyr

Nod 

Paratoi dysgwyr â’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol i ddenu ystod amrywiol o ymgeiswyr trwy arferion recriwtio cynhwysol, hysbysebu effeithiol, a’r defnydd priodol o adnoddau AI trwy gydol y broses recriwtio. 

Cynnwys 

Mae’r sesiwn ymarferol hon yn edrych ar sut i ddenu’r ymgeiswyr cywir wrth wneud y gorau o adnoddau cyfyngedig. Byddwch chi’n dysgu sut i lunio disgrifiadau swydd cynhwysol ac amrywiol a defnyddio’r rhain i ddatblygu hysbysebion swydd diddorol sy’n apelio at ymgeiswyr amrywiol. Byddwn ni hefyd yn edrych ar ffyrdd effeithiol ac ystyriol o hysbysebu swyddi gwag ac yn dangos sut gall adnoddau AI gefnogi tasgau fel llunio disgrifiadau swyddi, mireinio geiriad hysbysebion a gwella effeithlonrwydd recriwtio. 

Canlyniadau dysgu 

Erbyn diwedd y modiwl hwn, bydd cyfranogwyr yn gallu: 

  • Llunio disgrifiadau swydd cynhwysol sy’n denu ystod amrywiol o ymgeiswyr
  • Ysgrifennu hysbysebion swyddi diddorol sy’n hyrwyddo swyddi gwag yn effeithiol
  • Nodi dulliau a sianeli cost-effeithiol ar gyfer hysbysebu swyddi gwag
  • Defnyddio adnoddau AI yn briodol i gefnogi gweithgareddau recriwtio
  • Cymhwyso strategaethau ymarferol i ddenu ymgeiswyr addas o fewn cyllideb gyfyngedig 

ARCHEBWCH LE YMA

Modiwl dau: Llunio rhestr fer a chyfweld

Nod 

Paratoi dysgwyr â’r sgiliau a’r hyder i lunio rhestr fer o ymgeiswyr mewn modd teg, cynnal cyfweliadau effeithiol, cyfathrebu’n broffesiynol ag ymgeiswyr, a defnyddio AI yn gyfrifol i gefnogi penderfyniadau sy’n ymwneud â recriwtio.

Cynnwys 

Mae’r sesiwn ryngweithiol hon yn canolbwyntio ar y prif gamau wrth ddewis ymgeiswyr a chyfathrebu. Byddwch chi’n edrych ar sut i gymhwyso meini prawf teg a chyson ar gyfer llunio rhestr fer, sut i gyfathrebu’n effeithiol ag ymgeiswyr a sut i gynnal cyfweliadau strwythuredig sy’n cefnogi penderfyniadau recriwtio gwybodus. Bydd y sesiwn hefyd yn ystyried sut y gellir defnyddio adnoddau AI yn briodol i gefnogi’r gwaith o lunio rhestr fer, paratoi a gweinyddu’r gwaith recriwtio wrth gynnal tegwch ac arfer da. 

Canlyniadau dysgu 

Erbyn diwedd y modiwl hwn, bydd cyfranogwyr yn gallu: 

  • Cymhwyso technegau llunio rhestr fer teg a gwrthrychol
  • Cynnal cyfweliadau effeithiol a strwythuredig
  • Cyfathrebu’n broffesiynol ag ymgeiswyr trwy gydol y broses recriwtio
  • Deall sut i leihau rhagfarn a hyrwyddo tegwch mewn penderfyniadau recriwtio
  • Defnyddio adnoddau AI yn briodol i gefnogi gweithgareddau recriwtio a dethol 

ARCHEBWCH LE YMA

Hyforddwr

Mae Henry Field wedi bod yn gweithio mewn timau recriwtio ac adnoddau dynol ers y 12 mlynedd ddiwethaf ac mae ganddo Radd Meistr mewn Rheoli Adnoddau Dynol. Mae wedi gweithio o fewn elusennau, gofal cymdeithasol a chwmnïau’r sector preifat ar draws nifer o sectorau ac arbenigeddau. Dull gweithredu Henry yw cadw pethau’n syml, yn hygyrch ac mor gost-effeithiol â phosibl. Ers Ebrill 2025, Henry yw sylfaenydd a chyfarwyddwr “HR Field“, cwmni ymgynghori adnoddau dynol yng Nghaerdydd sy’n arbenigo mewn cynorthwyo elusennau a mentrau bach a chanolig â’u hanghenion recriwtio, adnoddau dynol a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI). 

Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu

Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:

  • Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
  • Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
  • Cyrhaeddwch 5 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
  • Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl.
  • Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
  • Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
  • Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).

Angen help neu ragor o wybodaeth?