24 Medi 2026
10 am – 1 pm | Ar-lein
Cyflwynir yn Saesneg
Noder: Rhaid i gyfranogwyr fod wedi cwblhau cwrs Sgiliau Hyfforddi achrededig o’r blaen neu fod â chymhwyster hyfforddi cydnabyddedig.
Nod
Rhowch hwb i’ch hyder a’ch sgiliau i hwyluso hyfforddiant diddorol ar-lein.
Mae angen cyflwyno hyfforddiant ar-lein mewn modd gwahanol i sesiynau wyneb yn wyneb. Bydd y gweithdy ymarferol, rhyngweithiol hwn yn eich helpu i ddatblygu’r hyder a’r technegau sydd eu hangen i ddylunio a chyflwyno hyfforddiant rhithwir sy’n cadw diddordeb dysgwyr ac yn cyflawni canlyniadau dysgu positif.
Gan ddilyn arferion da cydnabyddedig, byddwch chi’n edrych ar sut i greu sesiynau rhyngweithiol, annog pobl i gyfrannu ac addasu eich arddull hwyluso ar gyfer cyflwyniad rhithwir.
Canlyniadau dysgu
Bydd cyfranogwyr yn gallu:
- Cynllunio a dylunio sesiynau hyfforddi ar-lein effeithiol
- Cymhwyso adnoddau a gweithgareddau rhyngweithiol er mwyn gwella dysgu rhithwir a chynyddu ymgysylltiad dysgwyr
- Addasu arddull cyflwyno i greu profiad dysgu positif
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae’r cwrs hwn ar gyfer pobl sy’n cyflwyno hyfforddiant fel rhan o’u rôl ac a hoffai wella eu dull gweithredu, eu sgiliau a’u hyder wrth gyflwyno hyfforddiant ar-lein.
ARCHEBWCH LE YMA
Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu
Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:
- Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
- Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
- Cyrhaeddwch 5 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
- Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl.
- Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
- Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
- Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).
Angen help neu ragor o wybodaeth?
- Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Sector Gwirfoddol gydag CGGC? Gwiriwch yma.
- Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Ymgysylltiedig gydag CGGC? Gwiriwch yma.
- Rydym yn cynnig cyrsiau pwrpasol sydd wedi’u dylunio o gwmpas anghenion eich mudiad. Llenwch ein ffurflen ‘cais am hyfforddiant pwrpasol’ ac fe wnawn ni gysylltu â chi.
- Cliciwch yma i gael eich ychwanegu at y rhestr aros.
- Os oes gennych chi unrhyw ymholiad arall, anfonwch e-bost at bookings@wcva.cymru.
- Gallwch chi gofrestru ar ein rhestr bostio i dderbyn diweddariadau bob wythnos/mis.