Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan. I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma.
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
2 x sesiwn 3 awr / ar-lein
Nod
Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r sgiliau a’r adnoddau i chi gynnal gweithgareddau cynllunio busnes a fydd yn arwain at gynhyrchu Cynllun Busnes ar gyfer eich mudiad
Cynnwys
Dyluniwyd y cwrs i ymdrin â saith ‘modiwl’ craidd, sef:
Modiwl 1. Chwilio’ch traed – Bydd y modiwl hwn yn edrych ar ddibenion gwneud cynllun busnes, y pethau y gallech chi ddisgwyl eu gweld mewn cynllun busnes nodweddiadol, pwy ddylech ei gynnwys yn y broses a sut i fynd ati i ysgrifennu un.
Modiwl 2. Mapio eich marchnad – Bydd y modiwl hwn yn edrych ar sut gall eich mudiad fynd ati i nodi’r holl bobl a mudiadau hynny a allai fod â diddordeb (neu fudd) yn eich busnes – eich ‘cynulleidfa darged’ a ‘rhanddeiliaid allweddol’ eraill. Bydd yn symud ymlaen i edrych ar sut allech fynd ati i ganfod eu dymuniadau a’u hanghenion.
Modiwl 3. Sefydlu eich strategaeth – Bydd y modiwl hwn yn edrych ar sut i ddefnyddio adnoddau cynllunio busnes syml i helpu eich mudiad i ddatblygu ei strategaeth fusnes ei hun a sefydlu set glir o amcanion strategol i lywio’r ffordd ymlaen.
Modiwl 4. Adeiladu eich capasiti – Bydd y modiwl hwn yn edrych ar sut gallech baratoi eich mudiad i gyflawni eich amcanion strategol. Bydd yn canolbwyntio ar sut gallech fynd ati i nodi a datblygu’r adnoddau sydd eu hangen arnoch, yn enwedig eich gwirfoddolwyr a staff.
Modiwl 5. Rheoli eich cyllid – Bydd y modiwl hwn yn edrych ar sut gall eich mudiad ddatblygu proffil incwm a gwariant syml a fydd yn eich helpu i weld eich sefyllfa ariannol, gosod targedau ariannol ar gyfer y dyfodol a rhoi mesurau ar waith i sicrhau bod eich mudiad yn parhau i fod yn ariannol hyfyw.
Modiwl 6. Hyrwyddo eich busnes – Bydd y modiwl hwn yn helpu eich mudiad i roi strategaeth farchnata syml ar waith sy’n canolbwyntio ar nodi eich prif negeseuon a’r cyfryngau hyrwyddo mwyaf priodol y gallech eu defnyddio i gyrraedd eich cynulleidfaoedd targed.
Modiwl 7. Tynnu popeth ynghyd – Nod y modiwl hwn yn syml yw crynhoi canlyniadau pob un o’r modiwlau bach a dangos sut mae elfennau amrywiol eich cynllun busnes yn cysylltu â’i gilydd ac yn cefnogi ei gilydd.
Amcanion dysgu
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu:
- Gwahaniaethu rhwng y broses o wneud cynllun busnes a chynnyrch terfynol y broses honno, sef cynllun busnes
- Nodi pwy i’w gynnwys a beth i’w wneud i lunio cynllun busnes
- Deall eich marchnad a gwybod sut i gyrraedd eich cynulleidfaoedd targed a chanfod eu dymuniadau a’u hanghenion
- Datblygu strategaeth fusnes a’r gweithgareddau busnes a fydd yn helpu i fodloni amcanion strategol eich mudiad
- Deall yr hanfodion o lunio cynllun ariannol, gan gynnwys proffil incwm a gwariant syml
- Llunio cynllun marchnata syml
- Tynnu ynghyd holl elfennau amrywiol y broses creu cynllun busnes, a’u cyfuno i fod yn ddogfen cynllun busnes clir a darbwyllol a fydd yn diwallu anghenion rhanddeiliaid allweddol, yn enwedig cyrff cyllido.
I bwy mae’r sesiwn
Mae’r sesiwn hon i fudiadau cymunedol a gwirfoddol sydd eisiau rhoi cynllun busnes ar waith ar gyfer eu mudiad.
Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu
Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:
- Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
- Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
- Cyrhaeddwch 5-10 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
- Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl.
- Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
- Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
- Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).
UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad
Angen help neu ragor o wybodaeth?
- Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Sector Gwirfoddol gydag CGGC? Gwiriwch yma.
- Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Ymgysylltiedig gydag CGGC? Gwiriwch yma.
- Rydym yn cynnig cyrsiau pwrpasol sydd wedi’u dylunio o gwmpas anghenion eich mudiad. Llenwch ein ffurflen ‘cais am hyfforddiant pwrpasol’ ac fe wnawn ni gysylltu â chi.
- Cliciwch yma i gael eich ychwanegu at y rhestr aros.
- Os oes gennych chi unrhyw ymholiad arall, anfonwch e-bost at bookings@wcva.cymru.
- Gallwch chi gofrestru ar ein rhestr bostio i dderbyn diweddariadau bob wythnos/mis.