Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan. I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma.
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
2 x sesiwn 3 awr / ar-lein
Nod
Gwella dealltwriaeth o ddiogelwch seicolegol fel sylfaen ar gyfer amgylcheddau cynhwysol, a pharatoi cyfranogwyr â’r adnoddau ymarferol a’r hyder i lywio sgyrsiau dewr sy’n hybu tegwch ac ymdeimlad o berthyn.
Cynnwys y cwrs
Mae’r cwrs rhyngweithiol hwn yn edrych ar sut i adeiladu amgylcheddau seicolegol ddiogel a chymryd rhan mewn sgyrsiau dewr sy’n cefnogi cynhwysiant a thegwch.
Byddwch yn:
- Diffinio diogelwch seicolegol ac yn cydnabod ei effaith ar ddynameg grŵp
- Edrych ar rwystrau a buddion sgyrsiau dewr
- Dysgu arfau sy’n mynd i’r afael â microymosodedd, braint ac effaith yn erbyn bwriad
- Defnyddio’r Cwmpawd Dewr i gynllunio, cynnal a myfyrio ar sgyrsiau ystyrlon
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y cwrs, bydd cyfranogwyr yn gallu:
- Nodi a meithrin amgylchiadau seicolegol ddiogel yn eu grwpiau cymdeithasol neu broffesiynol.
- Cynllunio, cymryd rhan mewn a myfyrio ar sgyrsiau dewr gan ddefnyddio’r Cwmpawd Dewr. Gallai’r sgyrsiau hyn gynnwys:
- Herio microymosodedd
- Codi ymwybyddiaeth o fraint
- Llywio’r mân wahaniaethau rhwng effaith a bwriad
I bwy mae’r cwrs
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i unrhyw un sy’n ymrwymedig i greu amgylcheddau cynhwysol a pharchus neu unigolion sydd eisiau magu hyder mewn mynd i’r afael â phynciau sensitif neu heriol mewn modd adeiladol.
Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu
Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:
- Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
- Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
- Cyrhaeddwch 5-10 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
- Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl.
- Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
- Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
- Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).
UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad
Angen help neu ragor o wybodaeth?
- Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Sector Gwirfoddol gydag CGGC? Gwiriwch yma.
- Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Ymgysylltiedig gydag CGGC? Gwiriwch yma.
- Rydym yn cynnig cyrsiau pwrpasol sydd wedi’u dylunio o gwmpas anghenion eich mudiad. Llenwch ein ffurflen ‘cais am hyfforddiant pwrpasol’ ac fe wnawn ni gysylltu â chi.
- Cliciwch yma i gael eich ychwanegu at y rhestr aros.
- Os oes gennych chi unrhyw ymholiad arall, anfonwch e-bost at bookings@wcva.cymru.
- Gallwch chi gofrestru ar ein rhestr bostio i dderbyn diweddariadau bob wythnos/mis.