1 & 15 Chwefror 2023 | 9.30 am – 4 pm
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
Cyflwynir y rhaglen ar-lein drwy Zoom
Amcanion
Cymerwch dau ddiwrnod i ddysgu sut i fesur effaith gymdeithasol eich sefydliad a chynllunio pa wahaniaeth yr hoffech ei wneud yn y dyfodol. Bydd y rhaglen wedi’i rhannu’n ddau, gan archwilio mesur effaith gymdeithasol ac yna ei gymhwyso i’ch sefydliad eich hun.
Cynnwys
Yn ystod y ddau ddiwrnod byddwch yn cael y cyfle i gysylltu â sefydliadau treftadaeth gwirfoddol eraill a rhannu profiadau wrth i chi ddod o hyd i’r offer mwyaf addas i gyfathrebu eich effaith. Bydd y rhaglen yn eich galluogi i:
- Archwilio ystod eang o dechnegau i fesur a chyfathrebu effaith gymdeithasol
- Deall sut y gall fesur o effaith gynyddu’r gwahaniaeth rydych yn ei wneud
- Datblygu Theori Newid glir a rhesymegol i’ch sefydliad
- Nodi’r dull gweithredu gorau a’r camau nesaf i’ch sefydliad
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y sesiynau byddwch yn gallu:
- Nodi meysydd penodol yr hoffech eu mesur
- Archwilio sut i gynnwys budd-ddeilaid
- Nodi heriau a chyfleoedd penodol
- Meddwl am ffyrdd creadigol o ddangos eich effaith gymdeithasol
- Datblygu cynllun gweithredu i archwilio’r camau nesaf
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Mae’r rhaglen hon wedi’i dylunio ar gyfer mudiadau sydd eisiau profi a gwella gwerth eu gwaith i noddwyr, rhanddeiliaid allweddol a buddiolwyr.
Ynglŷn â’r hyfforddwr
Mae Mark Richardson yn entrepreneur cymdeithasol arobryn ac yn ymgynghorydd menter gymdeithasol rhyngwladol. Cyd-sefydlodd ei fenter gymdeithasol gyntaf pan adawodd y brifysgol yn 21 oed, gan ddarparu cyflogaeth i bobl ddigartref yn y DU. Arweiniodd llwyddiant y fenter at ei gynghori llywodraeth y DU ar fenter gymdeithasol a digartrefedd.
Mae Becky Lythgoe yn un o Gyfarwyddwyr Cwmni Buddiannau Cymunedol Greenstream Flooring yn y De. Cenhadaeth y cwmni yw sicrhau’r buddiant cymunedol mwyaf trwy ddargyfeirio lloriau o safleoedd tirlenwi, a bu’n rhan o’r tîm ers 2009.
Cymhwysedd
Caiff y rhaglen am ddim hon ei chyllido drwy ein prosiect Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion, a gyllidir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac mae ar gyfer mudiadau Treftadaeth* gwirfoddol yng Nghymru / mudiadau sy’n rhedeg prosiect treftadaeth yn benodol.
*Gellir diffinio treftadaeth fel:
- Treftadaeth Gymunedol – e.e. prosiect sy’n canolbwyntio ar ardal leol er mwyn gwella/adfer/dehongli’r amgylchedd naturiol neu adeiledig
- Diwylliannau ac Atgofion – e.e. dathlu diwylliannau amrywiol drwy brosiectau celfyddydol/hanes llafar
- Tirweddau a Threftadaeth Naturiol, e.e. hyrwyddo natur/bioamrywiaeth
- Adeiladau Hanesyddol a Henebion
- Diwydiannol, Morol a Thrafnidiaeth
- Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau
Bydd angen i gyfranogwyr ddod i’r ddwy sesiwn a gwneud dysgu hunangyfeiriedig.
Mae lleoedd wedi’u cyfyngu i un unigolyn/mudiad.
Mae CGGC yn cyflwyno’r rhaglen hon mewn partneriaeth â mudiad Cwmpas/Academi Mentrau Cymdeithasol.
Mae’r cwrs bellach yn llawn, os hoffech fynd ar restr wrth gefn, anfonwch e-bost at training@wcva.co.uk