Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan – cofrestrwch ar ein rhestr bostio i fod y cyntaf i glywed.
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
Amcanion
Bydd y cwrs hwn yn helpu’r rheini sy’n gweithio mewn mudiadau gwirfoddol i ddatblygu dull trefnus o farchnata er mwyn eu helpu i werthu eu gwasanaethau’n fwy effeithiol.
Cynnwys
Dysgwch y prif gysyniadau o gyfleu eich neges yn y modd mwyaf effeithiol bosibl, fel y gall eich gwaith gwerthfawr a’ch gwasanaethau proffidiol gael eu gweld gan gymaint â phosibl o bobl.
Bydd y cwrs ar-lein hwn yn cyflwyno canllawiau ymarferol ar ddatblygu strategaeth farchnata. Bydd yn eich helpu i fapio’ch gwasanaethau, deall eich cwsmeriaid a chanfod ffyrdd o gyfathrebu’n effeithiol â nhw. Byddwn yn edrych ar amrediad o offer a thechnegau marchnata. Byddwn hefyd yn eich helpu i werthuso’ch marchnata fel y gallwch ddarganfod beth sy’n gweithio orau i chi a’ch cynulleidfaoedd.
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y cwrs bydd cyfranogwyr yn gallu:
- Deall rôl marchnata i werthu gwasanaethau i gwsmeriaid
- Mapio’r gwasanaethau maent yn eu cynnig a rhestru eu cwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid
- Cynllunio strategaeth farchnata, gan osod nod ac amcanion ar gyfer eu gwaith
- Canfod offer a thechnegau marchnata perthnasol y gallant eu defnyddio
- Deall systemau monitro
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Mae’r cwrs hwn yn berffaith i’r rheini sy’n newydd i farchnata, ac i weithwyr sydd â chyfrifoldeb dros arwain gwaith marchnata.
Gellir cyflwyno ein holl gyrsiau wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer anghenion eich mudiad. Cysylltwch os hoffech drafod hyn ymhellach.