Dydd Mawrth 21 Tachwedd 2023 |
10 am – 1 pm | Ar-lein
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
Dydd Mercher 22 Tachwedd 2023 |
10 am – 1 pm | Ar-lein
Cyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg
Amcanion
Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn rhoi’r wybodaeth i chi allu defnyddio eich platfformau cyfryngau cymdeithasol fel platfformau marchnata effeithiol.
Cynnwys
Erbyn diwedd y sesiwn, byddwch chi’n deall pwysigrwydd marchnata digidol yn y byd modern a’r rhan y mae cyfryngau cymdeithasol yn ei chwarae ynddo. Bydd y sesiwn hefyd yn edrych ar strategaethau ar sut i ymhél â chynulleidfaoedd a meithrin cymunedau ar-lein, a sut i ddefnyddio dadansoddeg i fesur llwyddiant postiadau ac ymgyrchoedd i wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ddata.
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y cwrs hwn, byddwch chi’n gallu:
- Deall strategaethau i ymgysylltu â chynulleidfaoedd yn well.
- Dylunio strategaethau marchnata sy’n canolbwyntio ar nodau sy’n cefnogi gwaith eich mudiad.
- Gallu defnyddio dadansoddeg i fesur llwyddiant ymgyrchoedd marchnata.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Mae’r cwrs hwn ar gyfer staff neu wirfoddolwyr sydd â diddordeb mewn dysgu sut i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol i gefnogi eu gwaith. Mae’r cwrs hwn yn fwyaf addas i bobl sydd:
- Yn defnyddio offer digidol yn eu gwaith bob dydd – fel e-bost, cyfarfodydd rhithwir a meddalwedd swyddfa.
- Â dealltwriaeth sylfaenol o blatfformau cyfryngau cymdeithasol poblogaidd.
- Yn deall cysyniadau marchnata sylfaenol, fel cynulleidfa darged, brandio a hysbysebu.
- Â sgiliau sylfaenol mewn creu cynnwys.
- Yn gyfarwydd â chysyniadau ac offer dadansoddi data.
Gofynion y cwrs
Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y profiad gorau ar ein cyrsiau, gofynnwn y canlynol ohonoch chi;
- Ymrwymwch i fynychu holl hyd yr hyfforddiant
- Profwch eich mynediad i Teams
- Bydd yr hyfforddiant yn dechrau’n brydlon, cyrhaeddwch 10 munud cyn yr amser dechrau, oherwydd mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael eu gadael i mewn
- Mae ein cyrsiau’n rhyngweithiol a chyfranogol a gofynnwn, lle’n bosibl, i’r holl ddysgwyr gael eu camerâu arno a chymryd rhan drwy’r cyfleusterau microffon a sgwrsio
- Rhowch wybod i ni wrth gadw’ch lle os oes gennych chi unrhyw ofynion penodol, e.e. dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
- Bydd copi dall o’r cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau yn cael ei anfon atoch gan bookings@wcva.cymru, gwiriwch eich ffolder e-bost sothach os nad ydych chi wedi’u derbyn wythnos cyn yr hyfforddiant (unrhyw broblemau, rhowch wybod i ni)
- Os na allwch chi fynychu, anfonwch e-bost at training@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo)
Os nad ydych chi’n siŵr a yw’r cwrs hwn ar y lefel gywir i chi, cysylltwch ag archebion@wcva.cymru.
Bydd yr hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan Big Learning Company, sydd â 15 mlynedd o brofiad yn datblygu a chyflwyno rhaglenni dysgu digidol ar draws pob sector yng Nghymru.
Mae’r hyfforddiant yma yn rhan o Newid: Digidol ar gyfer y trydydd sector. Cyflwynir Newid mewn partneriaeth â CGGC, Cwmpas a ProMo-Cymru, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn hyrwyddo ymarfer digidol dda ar draws y trydydd sector yng Nghymru, gwneir hyn wrth ddarparu hyfforddiant, cefnogaeth a gwybodaeth. Am ragor o wybodaeth, ewch i newid.cymru
SAESNEG
CYMRAEG