Lady talking to colleagues.Y Fonesig yn siarad â chydweithwyr.

Hyfforddiant ar ddiogelu ar gyfer ymarferwyr Grŵp B

Categorïau: Llywodraethu a diogelu,

Dydd 1 – 11 Rhagfyr 2024
Dydd 2 – 18 Rhagfyr 2024

9.30 am – 12.30 pm | Ar-lein

Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg

Dysgu cyfunol ar ddiogelu i ymarferwyr Grŵp B sy’n gweithio mewn unrhyw leoliad neu gydag unrhyw grŵp oedran (generig).

Rhaid bod pob dysgwr wedi cwblhau modiwl Grŵp A o fewn 3 blynedd i ymuno â’r hyfforddiant hwn. Bydd angen i’r dysgwyr ymrwymo i’r sesiynau a mynychu’r ddwy sesiwn (yn yr un pecyn) er mwyn cwblhau 6 awr lawn y cwrs.

Rhaid i’r dysgwyr ddangos eu dysgu’n ddigonol drwy gymryd rhan briodol yng ngweithgareddau’r cwrs cyn ennill eu tystysgrif.

Amcanion

Nod y cwrs hwn yw rhoi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth o’r egwyddorion ar gyfer yr hyfforddiant ar ddiogelu Grŵp B i ddysgwyr.

Cynnwys

Mae’r cynnwys yn cynnwys:

  • Adnabod camdriniaeth, esgeulustod, niwed ac arferion gwael yn y cyd-destun diogelu yng Nghymru
  • Llunio cofnod o ansawdd o bryderon diogelu
  • Deall y rôl eirioli mewn diogelu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Deall y gyfraith ynghylch diogelu a sut i’w rhoi ar waith drwy gydol eu gwaith.

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y cwrs dylai cyfranogwyr allu:

  • Adnabod y rhan y maen nhw’n eu chwarae yn y broses ddiogelu
  • Gwybod pryd a sut i adrodd pryder diogelu ac i bwy
  • Sicrhau bod llais yr unigolyn yn cael ei glywed o fewn diogelu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn

Ymarferwyr Grŵp B ym mhob lleoliad, a all fod yn staff cyflogedig neu’n wirfoddolwyr.

Y rheini sy’n treulio amser gyda phobl mewn grwpiau neu’n unigol. Bydd ganddynt gyfrifoldeb penodol o ran y bobl y maen nhw’n gweithio gyda nhw a bydd angen lefel uwch o wybodaeth arnynt na’r rheini yn Grŵp A oherwydd eu cysylltiad uniongyrchol â phobl. Efallai y bydd neu na fydd y bobl y maen nhw’n gweithio gydag yn cyflwyno pryderon diogelu.

Gofynion y cwrs

Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y profiad gorau ar ein cyrsiau, gofynnwn y canlynol ohonoch chi;

  • Ymrwymo i fynychu hyd lawn yr hyfforddiant i dderbyn tystysgrif y cwrs
  • Profwch eich mynediad i Zoom
  • Bydd yr hyfforddiant yn dechrau’n brydlon, cyrhaeddwch 10 munud cyn yr amser dechrau, oherwydd mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael eu gadael i mewn
  • Mae ein cyrsiau’n rhyngweithiol a chyfranogol a gofynnwn, lle’n bosibl, i’r holl ddysgwyr gael eu camerâu arno a chymryd rhan drwy’r cyfleusterau microffon a sgwrsio
  • Rhowch wybod i ni wrth gadw’ch lle os oes gennych chi unrhyw ofynion penodol, e.e. dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
  • Bydd cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau yn cael eu hanfon drwy LUMA, ein ap bwcio ar-lein, sicrhewch fod hysbysiadau gan LUMA wedi’u galluogi er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf
  • Os na allwch chi fynychu, anfonwch e-bost at training@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo)

UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad
Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n aelod, gwiriwch yma.

Gellir cyflwyno pob un o’n cyrsiau mewn modd pwrpasol wedi’u teilwra er mwyn diwallu anghenion eich mudiad. Llenwch ein ffurflen gais am hyfforddiant pwrpasol ac fe wnaiff aelod o’n tîm ni’n cysylltu â chi.

I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiad arall, anfonwch e-bost at training@wcva.cymru. Gallwch chi gofrestru ar ein rhestr bostio i dderbyn diweddariadau bob wythnos/mis.