Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan. I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma.
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
1 x sesiwn 2.5 awr / ar-lein
Nod
Helpu cyfranogwyr i reoli eu hamser yn fwy effeithiol.
Cynnwys
Yn y sesiwn hanner diwrnod ar-lein hon, byddwn ni’n edrych ar y canlynol:
- Eich dull personol o reoli amser
- Creu’r amgylchedd cywir
- Blaenoriaethu
- Cydbwyso gwaith a gynlluniwyd a galwadau annisgwyl
- Y negeseuon e-bost erchyll
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y cwrs, bydd cyfranogwyr yn gallu:
- Cael dealltwriaeth well o sut maen nhw’n rheoli eu hamser
- Blaenoriaethu eu gwaith yn fwy hyderus
- Cynllunio ar gyfer galwadau annisgwyl yn well
- Rheoli eu negeseuon e-bost yn fwy effeithiol
I bwy mae’r cwrs?
Unrhyw un a hoffai allu rheoli ei amser yn fwy effeithiol.
Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu
Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:
- Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
- Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
- Cyrhaeddwch 5-10 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
- Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl.
- Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
- Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
- Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).
UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad
Angen help neu ragor o wybodaeth?
- Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Sector Gwirfoddol gydag CGGC? Gwiriwch yma.
- Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Ymgysylltiedig gydag CGGC? Gwiriwch yma.
- Rydym yn cynnig cyrsiau pwrpasol sydd wedi’u dylunio o gwmpas anghenion eich mudiad. Llenwch ein ffurflen ‘cais am hyfforddiant pwrpasol’ ac fe wnawn ni gysylltu â chi.
- Cliciwch yma i gael eich ychwanegu at y rhestr aros.
- Os oes gennych chi unrhyw ymholiad arall, anfonwch e-bost at bookings@wcva.cymru.
- Gallwch chi gofrestru ar ein rhestr bostio i dderbyn diweddariadau bob wythnos/mis.