Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan. I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma.
Cyflwynir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg
1 x sesiwn 3 awr / ar-lein
Nod
Nod y sesiwn yw hysbysu, ymgysylltu, ac ysbrydoli; i annog ymrwymiad ar draws y mudiad, ac, os dymunech, ymhlith partneriaid ac o fewn y cymunedau rydych chi’n eu cefnogi. Ein nod yw creu egni a brwdfrydedd ‘gallu gwneud’ sy’n gallu cael ei droi’r weithredu.
Cynnwys
Mae’r sesiwn ragarweiniol hon yn cynnwys cyflwyniadau, ymarferion, trafodaethau grŵp bach a thrafodaethau grŵp cyfan, a chyfleoedd Holi ac Ateb. Mae hefyd yn cynnwys ystod o astudiaethau achos ysbrydoledig sy’n rhoi tystiolaeth rymus o effaith gweithio yn y ffordd hon. Bydd yn cynnwys:
- Beth yw cyd-gynhyrchu.
- Pam cyd-gynhyrchu: diben, gwerth, ac effaith.
- Cryfderau ac Asedau.Beth rydych chi’n ei wneud eisoes?
- Pryd i gyd-gynhyrchu. Sbectrwm ymgysylltu a theori cymhlethdod.
- Mesur yr hyn sy’n bwysig. Gwerthuso cyd-gynhyrchiant.
- Cyd-gynhyrchu a chi – beth ygallenni ei wneud? Pa wahaniaeth y gallen ni ei wneud?
Canlyniadau Dysgu
Erbyn diwedd y cwrs byddwch chi’n gallu:
- Deall ystyr cyd-gynhyrchu a’r egwyddorion sy’n sail iddo
- Deall pryd i ddefnyddio’r ymagwedd hon
- Deall effaith cyd-gynhyrchu – ar gyfer dinasyddion, staff, a mudiadau
- Deall gwybodaeth sylfaenol ymagwedd gyd-gynhyrchu at werthuso
- Ystyried sut y gall yr egwyddorion hyn gael eu cymhwyso yng nghyd-destun eu mudiadau penodol
Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn
Mae’r sesiwn Hanfodion Cyd-gynhyrchu wedi’i dylunio ar gyfer y rhai ag ychydig neu ddim gwybodaeth am gyd-gynhyrchu er bydd y sesiwn hefyd o fudd i’r rhai sy’n meddu ar brofiad o’r ffordd hon o weithio. Mae’n addas i ystod eang o randdeiliaid – o ymddiriedolwyr a rheolwyr i staff rheng flaen – ac i aelodau o’r cymunedau rydych chi’n eu cefnogi.
Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu
Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:
- Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
- Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
- Cyrhaeddwch 5-10 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
- Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl.
- Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
- Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
- Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).
UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad
Angen help neu ragor o wybodaeth?
- Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Sector Gwirfoddol gydag CGGC? Gwiriwch yma.
- Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Ymgysylltiedig gydag CGGC? Gwiriwch yma.
- Rydym yn cynnig cyrsiau pwrpasol sydd wedi’u dylunio o gwmpas anghenion eich mudiad. Llenwch ein ffurflen ‘cais am hyfforddiant pwrpasol’ ac fe wnawn ni gysylltu â chi.
- Cliciwch yma i gael eich ychwanegu at y rhestr aros.
- Os oes gennych chi unrhyw ymholiad arall, anfonwch e-bost at bookings@wcva.cymru.
- Gallwch chi gofrestru ar ein rhestr bostio i dderbyn diweddariadau bob wythnos/mis.