People around chalkboard drawing arrows leading across in different directions

Gwerthuso a monitro canlyniadau

Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan. I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma. 

Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg

2 x sesiwn 3 awr / ar-lein

Amcanion

Eich galluogi i feithrin dealltwriaeth well o werthuso a monitro canlyniadau a’ch helpu i werthuso eich gwaith yn well.

Cynnwys

Mae gwerthuso a monitro, mewn prosiect penodol neu’ch gwaith bob dydd, yn hanfodol i ddeall eich llwyddiant, gwella’ch arferion, a dangos eich effaith i gyllidwyr a’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau.

Nod y cwrs yw rhoi dealltwriaeth well i chi o werthuso a monitro canlyniadau, a’ch helpu i werthuso’ch gwaith yn well. Byddwch yn dysgu diffiniadau allweddol gan gynnwys canlyniadau, allbynnau, dangosyddion a gweithgareddau, ac yn archwilio’r ffordd y mae’r termau hyn yn cael eu defnyddio’n wahanol mewn cyd-destunau amrywiol gan fudiadau gwahanol.

Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn gallu adnabod a disgrifio’r canlyniadau y mae prosiect neu weithgaredd yn anelu at eu cyflawni a defnyddio’ch dealltwriaeth o egwyddorion craidd gwerthuso i roi mwy o ffocws i’ch gwaith gwerthuso. Byddwch yn darganfod technegau i’w defnyddio er mwyn gwerthuso a monitro canlyniadau’ch gwaith a byddwch yn gallu dylunio gwerthusiad yn hyderus.

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu:

  • adnabod a disgrifio’r canlyniadau y mae prosiect neu weithgaredd yn anelu at eu cyflawni
  • defnyddio’ch dealltwriaeth o egwyddorion craidd gwerthuso i roi mwy o ffocws i’ch gwaith gwerthuso
  • dylunio gwerthusiad o’ch gwaith yn well
  • gweithredu gwerthusiad o’ch gwaith yn well

Ar gyfer pwy mae’r cwrs

Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â thestunau amrywiol mewn un diwrnod ac mae’n fwyaf addas i bobl sydd â pheth gyfrifoldeb dros werthuso ac sydd â phrofiad cyfyngedig neu ganolradd yn y maes. Nid yw’n addas i ymarferwyr gwerthuso profiadol.

Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu

Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:

  • Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
  • Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
  • Cyrhaeddwch 5-10 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
  • Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl.
  • Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
  • Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
  • Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).

UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad

Angen help neu ragor o wybodaeth?