Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan. I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma.
Bydd hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg
Sesiwn 1 awr / ar-lein
Nod y Weminar
Darparu crynodeb o’r diweddariadau a’r newidiadau diweddaraf mewn cyfraith a llywodraethu elusennau a sut gallent effeithio ar eich mudiad.
Cynnwys
Mae llywodraethu da yn hanfodol er mwyn sicrhau gwydnwch a llwyddiant mudiadau gwirfoddol ond gall derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf fod yn anodd.
Bydd y weminar hon yn amlygu’r ‘pynciau llosg’ mewn llywodraethu elusennau, yn crynhoi’r diweddariadau a newyddion diweddaraf a allai effeithio ar eich mudiad ac yn dweud wrthych chi o ble i gael rhagor o wybodaeth ac adnoddau.
Canlyniadau Dysgu
Erbyn diwedd y weminar, bydd cyfranogwyr yn:
- Ymwybodol o’r ‘pynciau llosg’ cyfredol ym maes llywodraethu elusennau
- Ymwybodol o’r rhybuddion a’r diweddariadau diweddaraf gan y Comisiwn Elusennau a gan reoleiddwyr eraill
- Ymwybodol o’r offer ac adnoddau newydd sy’n gallu cynorthwyo llywodraethu da
- Ymwybodol o ddigwyddiadau i ddod
I bwy mae’r sesiwn
Bydd y sesiwn hon yn ddefnyddiol ar gyfer unrhyw un â diddordeb mewn llywodraethu elusen, ond bydd yn arbennig o berthnasol i ymddiriedolwyr a staff uwch sy’n ymwneud yn uniongyrchol â llywodraethu elusen.
Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu
Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:
- Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
- Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
- Cyrhaeddwch 5-10 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
- Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
- Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
- Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).
UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad
Angen help neu ragor o wybodaeth?
- Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Sector Gwirfoddol gydag CGGC? Gwiriwch yma.
- Ddim yn siŵr a ydych chi’n Bartner Ymgysylltiedig gydag CGGC? Gwiriwch yma.
- Rydym yn cynnig cyrsiau pwrpasol sydd wedi’u dylunio o gwmpas anghenion eich mudiad. Llenwch ein ffurflen ‘cais am hyfforddiant pwrpasol’ ac fe wnawn ni gysylltu â chi.
- Cliciwch yma i gael eich ychwanegu at y rhestr aros.
- Os oes gennych chi unrhyw ymholiad arall, anfonwch e-bost at bookings@wcva.cymru.
- Gallwch chi gofrestru ar ein rhestr bostio i dderbyn diweddariadau bob wythnos/mis.