6 Medi 2022 | 2 pm – 3 pm
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
Nod
Hysbysu mynychwyr o’r Cod Ymarfer Diogelu a gyhoeddwyd yn ddiweddar a sut y gallai gael ei roi ar waith.
Cynnwys
Ym mis Chwefror 2022, rhyddhaodd Llywodraeth Cymru’r Cod Ymarfer Diogelu newydd. Mae’r cod ymarfer newydd hwn wedi’i ddatblygu i gefnogi mudiadau nad ydynt fel arall wedi’u cynnwys mewn canllawiau statudol ar gyfer Diogelu er mwyn gwella eu harferion a’u dealltwriaeth o ddiogelu.
Yn ystod y weminar, bydd Suzanne Mollison, Swyddog Diogelu CGGC, yn egluro sut bydd y Cod newydd hwn yn cael ei roi ar waith. Bydd amser ar ddiwedd y weminar am gwestiynau.
Canlyniad dysgu
- i ymgyfarwyddo mudiadau â’r canllawiau defnyddiol hyn
I bwy mae’r weminar?
Swyddogion diogelu, ymddiriedolwyr diogelu arweiniol neu bobl eraill â chyfrifoldebau diogelu mewn mudiadau nad ydynt fel arall wedi’u cynnwys mewn canllawiau statudol (e.e. ni fyddai’r digwyddiad hwn yn berthnasol i ofal plant cofrestredig).