Dydd Mawrth 14 Tachwedd 2023 |
10 am – 1 pm | Ar-lein
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
Bydd y sesiwn a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei chynnal ar ddechrau 2024.
Cysylltwch ag archebion@wcva.cymru i gofrestru eich diddordeb
Amcanion
Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn rhoi dealltwriaeth i chi o sut gall offer digidol symleiddio’ch gwaith, arbed amser a’ch cefnogi gyda rheoli prosiectau.
Cynnwys
Yn ystod y cwrs hwn byddwch chi’n cael gwybodaeth am offer digidol fel Microsoft Teams, Miro, a Microsoft Visio, ymhlith eraill, ac yn dysgu sut gallant symleiddio a gwella eich gwaith, a helpu i reoli prosiectau.
Bydd y cwrs yn dangos y manteision o ddefnyddio prosesau digidol mewn arferion rheoli prosiect er mwyn cefnogi’ch gwaith a’ch galluogi i weithio’n fwy effeithlon.
Bydd y sesiwn yn edrych ar opsiynau offer digidol amrywiol sydd naill ai ar gael am ddim, yn rhad, neu sydd eisoes ar gael trwy becynnau swyddfa.
Canlyniadau dysgu
Ar ôl cwblhau’r cwrs hon, byddwch chi’n gallu:
- Defnyddio technolegau digidol amrywiol; Microsoft Teams, Miro, Planner, Microsoft Visio, ac ati.
- Nodi a defnyddio offer a thechnolegau digidol amrywiol i reoli prosiectau’n effeithlon.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Mae’r cwrs hwn i staff neu wirfoddolwyr sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am sut gall technolegau digidol gefnogi eu gwaith. Mae’r cwrs hwn yn fwyaf addas ar gyfer pobl sydd:
- Yn defnyddio offer digidol yn eu gwaith bob dydd – fel e-bost, cyfarfodydd rhithwir a meddalwedd swyddfa
- Â diddordeb mewn edrych ar offer a thechnolegau digidol a dysgu amdanynt
- Â rhywfaint o brofiad o brosiectau sy’n ymwneud â gwaith, hyd yn oed ar lefel sylfaenol
Gofynion y cwrs
Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y profiad gorau ar ein cyrsiau, gofynnwn y canlynol ohonoch chi;
- Ymrwymwch i fynychu holl hyd yr hyfforddiant
- Profwch eich mynediad i Teams
- Bydd yr hyfforddiant yn dechrau’n brydlon, cyrhaeddwch 10 munud cyn yr amser dechrau, oherwydd mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael eu gadael i mewn
- Mae ein cyrsiau’n rhyngweithiol a chyfranogol a gofynnwn, lle’n bosibl, i’r holl ddysgwyr gael eu camerâu arno a chymryd rhan drwy’r cyfleusterau microffon a sgwrsio
- Rhowch wybod i ni wrth gadw’ch lle os oes gennych chi unrhyw ofynion penodol, e.e. dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
- Bydd copi dall o’r cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau yn cael ei anfon atoch gan bookings@wcva.cymru, gwiriwch eich ffolder e-bost sothach os nad ydych chi wedi’u derbyn wythnos cyn yr hyfforddiant (unrhyw broblemau, rhowch wybod i ni)
- Os na allwch chi fynychu, anfonwch e-bost at training@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo)
Os nad ydych chi’n siŵr a yw’r cwrs hwn ar y lefel gywir i chi, cysylltwch ag archebion@wcva.cymru.
Bydd yr hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan Big Learning Company, sydd â 15 mlynedd o brofiad yn datblygu a chyflwyno rhaglenni dysgu digidol ar draws pob sector yng Nghymru.
Mae’r hyfforddiant yma yn rhan o Newid: Digidol ar gyfer y trydydd sector. Cyflwynir Newid mewn partneriaeth â CGGC, Cwmpas a ProMo-Cymru, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn hyrwyddo ymarfer digidol dda ar draws y trydydd sector yng Nghymru, gwneir hyn wrth ddarparu hyfforddiant, cefnogaeth a gwybodaeth. Am ragor o wybodaeth, ewch i newid.cymru.
SAESNEG
CYMRAEG
Bydd y sesiwn a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei chynnal ar ddechrau 2024.