Cyfarfod busnes

Gweithio’n fwy effeithlon gydag adnoddau digidol

Categorïau: Cyfathrebu,

Dyddiadau cyrsiau newydd yn dod yn fuan. I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma. 

Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg a Gymraeg

Amcanion

Mae’r sesiwn hon yn edrych ar amrywiaeth o adnoddau digidol sydd wedi’u dylunio i symleiddio prosesau gwaith a’ch helpu chi i weithio’n fwy effeithlon. Trwy arddangosiadau ymarferol, byddwn yn edrych ar sut mae’r adnoddau hyn yn gweithio ac yn rhannu awgrymiadau a syniadau ar sut i’w hintegreiddio yn eich gwaith bob dydd er mwyn arbed amser i chi.

Cynnwys

Bydd y sesiwn hyfforddi yn cynnwys:

  • Deall eich llif gwaith a sut mae prosesau digidol yn rhan o hwnnw.
  • Sut gall adnoddau digidol symleiddio tasgau, gan wella effeithlonrwydd a chydweithio.
  • Cyflwyniad ymarferol i brif nodweddion a swyddogaethau adnoddau digidol poblogaidd a sut gallwch eu defnyddio yn eich gweithle.

Bydd yr adnoddau a ddefnyddir yn y sesiwn hon yn cynnwys:

Microsoft Sharepoint, Microsoft Planner a ToDo, Power Automate ac eraill.

Canlyniadau dysgu

Ar ôl mynychu’r sesiwn hon:

  • Bydd gennych ddealltwriaeth well o ba adnoddau digidol y gallwch eu defnyddio i symleiddio rhai prosesau gwaith cyffredin
  • Byddwch wedi cael cyfle i brofi rhai o’r adnoddau hyn.
  • Bydd gennych nifer o ddatrysiadau i edrych arnynt yn eich gweithle eich hun.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn

Mae’r cwrs hwn i staff y sector gwirfoddol neu wirfoddolwyr sydd â diddordeb mewn dysgu sut gall adnoddau digidol gwahanol gefnogi eu gwaith. Mae’r cwrs hwn yn arbennig o addas i bobl sydd:

  • Yn defnyddio Microsoft 365 yn eu gweithle.
  • Yn defnyddio adnoddau digidol yn eu gwaith bob dydd – fel e-bost, cyfarfodydd rhithwir a meddalwedd swyddfa.
  • Â diddordeb mewn edrych ar, a dysgu am adnoddau a thechnolegau digidol
  • Ag ychydig o brofiad o brosesau sy’n ymwneud â’r gwaith, waeth pa mor sylfaenol yw’r profiad hwnnw.

Efallai eich bod yn gofyn rhai o’r cwestiynau canlynol:

  • A oes ffordd gyflymach o wneud tasgau gweinyddol?
  • Sut gall fy nhîm gwblhau tasgau’n well gyda’i gilydd?
  • A oes ffyrdd y gallwn ni awtomeiddio tasgau arferol?

Os nad ydych chi’n siŵr a yw’r cwrs hwn ar y lefel gywir i chi, cysylltwch â digidol@wcva.cymru

Ymunwch â’r sesiwn hyfforddi hon ar liniadur neu gyfrifiadur personol oherwydd bydd cyfle i brofi’r adnoddau yn y sesiwn.

Ynglŷn â’r hyfforddwr 

Bydd yr hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan Big Learning Company, sydd â 15 mlynedd o brofiad yn datblygu a chyflwyno rhaglenni dysgu digidol ar draws pob sector yng Nghymru. 

 Mae’r hyfforddiant yma yn rhan o Newid: Digidol ar gyfer y trydydd sector. Cyflwynir Newid mewn partneriaeth â CGGC, Cwmpas a ProMo-Cymru, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn hyrwyddo ymarfer digidol dda ar draws y trydydd sector yng Nghymru, gwneir hyn wrth ddarparu hyfforddiant, cefnogaeth a gwybodaeth. Am ragor o wybodaeth, ewch i newid.cymru. 

Gofynion y cwrs – darllenwch cyn archebu

Yr hyn rydym ni’n ei ofyn gennych chi:

  • Sicrhewch eich bod yn mynychu’r holl hyfforddiant.
  • Profwch eich mynediad Zoom cyn mynychu.
  • Cyrhaeddwch 5-10 munud yn gynnar – mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad.
  • Cadwch eich camera ymlaen a chymerwch ran drwy’r microffon/sgwrs lle’n bosibl.
  • Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu os oes gennych unrhyw ofynion mynediad (e.e. cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)).
  • Sicrhewch eich bod yn gallu derbyn hysbysiadau gan LUMA fel y gallwch dderbyn cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau.
  • Os na allwch fynychu, e-bostiwch archebion@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo).

UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad

Angen help neu ragor o wybodaeth?