6, 7 Chwefror & 5 Mawrth 2024 (OEDD 26, 27 Medi a 24 Hydref 2023) | 10 am – 4 pm | Caerdydd
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
Amcanion
Wedi’i achredu gan Agored Cymru
Darparu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth well o ymgysylltu cyfranogol.
Cynnwys
Mae’r trydydd sector bob amser yn ceisio cysylltu â chynulleidfaoedd newydd fel y gallwn eu cynnwys yn ein sgyrsiau. Nod y cwrs modiwlar cynhwysfawr hwn yw darparu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth well o ymgysylltu cyfranogol. Byddwch yn ennill sgiliau amrywiol yn ogystal â meithrin eich hyder wrth ennyn diddordeb dinasyddion a’r gymuned.
Cynhelir modiwlau un a dau ar ddiwrnod cyntaf y cwrs.
- Mae modiwl un yn canolbwyntio ar gynllunio gweithgarwch ymgysylltu gan gynnwys pam mae ymgysylltu yn bwysig, â phwy i ymgysylltu ac ymgysylltu â grwpiau nas clywir eu llais yn aml.
- Mae modiwl dau yn fwy ymarferol gan ganolbwyntio ar sgiliau hwyluso a thechnegau cyfranogol i ennyn diddordeb.
Cynhelir modiwlau tri a phedwar ar yr ail ddiwrnod.
- Mae modiwl tri yn dysgu techneg gyfranogol i ddadansoddi data ansoddol o broses ymgynghori ac i lunio casgliadau ac argymhellion ystyrlon o’r dadansoddiad hwn. Mae hefyd yn edrych ar ffyrdd o roi adborth ar ôl ymgynghori.
- Mae’r pedwerydd modiwl, sef yr un olaf, yn helpu cyfranogwyr i sicrhau’r arfer gorau wrth ennyn diddordeb y cyhoedd. Mae’n cyfeirio at fodelau ymgysylltu damcaniaethol ac yn dangos sut i ddefnyddio Pecyn Cymorth Cyfranogaeth Cymru i werthuso gweithgarwch ymgysylltu.
Byddwch yn dysgu am offer amrywiol ac yn cael cyfle i roi rhai dulliau ar waith. Ar y trydydd dydd, byddwch yn arddangos dull cyfranogol fel rhan o’ch asesiad, ac yn llunio casgliadau ac argymhellion o ddata ansoddol mewn ffordd strwythuredig. Ar ôl yr hyfforddiant, bydd gofyn i gyfranogwyr sydd am ennill achrediad gyflwyno darn o waith i gael ei asesu.
Ynglŷn â’r hyfforddwr
Ganed Alain Thomas, y prif ymgynghorydd, ym Merthyr Tudful, ym 1954. Mae ganddo 12 mlynedd o brofiad fel ymarferydd datblygu cymunedol ac mae e’ wedi bod yn ymgynghorydd datblygu cymunedol ers 1989. Mynychodd Ysgol Uwchradd Afon Taf ym Merthyr Tudful ac mae ganddo radd anrhydedd (Prifysgol Cymru Aberystwyth) a chymwysterau ôl-raddedig mewn Gweinyddiaeth Gymdeithasol (Prifysgol Manceinion), a Gwaith Cymdeithasol Cymunedol (Prifysgol Cymru Abertawe).
Sefydlwyd Alain Thomas Consultancy ym 1989 i ddarparu cymorth costeffeithiol a hyblyg i fudiadau o bob math sy’n ymwneud â datblygu cymunedol. Gall Alain Thomas Consultancy alw ar wasanaethau sawl ymgynghorydd cyswllt sy’n meddu ar sgiliau a phrofiad ategol.
Canlyniadau dysgu
Drwy wneud y cwrs byddwch yn:
- Deall pwrpas ymgysylltu
- Canfod rhanddeiliaid
- Rhoi offer ymgysylltu amrywiol ar waith
- Deall dulliau cyfathrebu effeithiol drwy gydol y broses ymgysylltu
- Hwyluso gweithgareddau cyfranogol
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Rheolwyr a staff rheng flaen sy’n chwilio am hyfforddiant cynhwysfawr, achrededig mewn ymgysylltu â dinasyddion a’r gymuned.
Rhagor o wybodaeth
Codir ffi cofrestru o £21 y pen ar y rheini sy’n cofrestru i gwblhau’r asesiad Agored Cymru.
Cynllunio rhaglen ymgysylltu â’r cyhoedd (Ennyn diddordeb y cyhoedd: Modiwl un)
Amcanion
Bydd y cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth i chi o sut i gynllunio rhaglen ymgysylltu â’r cyhoedd, pam mae’n bwysig, â phwy i ymgysylltu, gan gynnwys grwpiau nas clywir eu llais yn aml.
Cynnwys
Does dim “bwled arian” wrth ennyn diddordeb y cyhoedd, ond mae yna gamau ymarferol y gellir eu cymryd i leihau neu ddymchwel unrhyw rwystrau. Bydd y cwrs hwn yn edrych ar ffyrdd gwahanol o gyrraedd rhanddeiliaid a all fod yn anodd cysylltu â nhw.
Mae’r cwrs yn dechrau drwy grynhoi cerrig milltir allweddol ym maes polisi sy’n diffinio cyd-destun unigryw Cymru ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd. Mae’n ystyried pwy all fod eisiau ennyn diddordeb y cyhoedd a pham.
Byddwch yn defnyddio techneg gyfranogol i “ddadansoddi rhanddeiliaid” er mwyn canfod y mudiadau a’r grwpiau anffurfiol i’w cynnwys yn eich strategaeth ymgysylltu â’r cyhoedd, sut mae angen i chi ddwyn perthynas â nhw, pa rai ohonynt sy’n flaenoriaethau o ran ennyn eu diddordeb, a pha rai a all fod yn anodd cysylltu â nhw.
Mae rhan olaf y modiwl hwn yn cyflwyno trosolwg byr o’r broses ymgynghori ac yn cyfeirio at wahanol fodelau ymgysylltu (ymdrinnir yn fanylach â’r rhain ym modiwl 4).
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn deall:
- Pam mae ymgysylltu yn bwysig
- Y rhesymau pam mae mudiadau a’r cyhoedd yn ymgysylltu
- Â phwy i ymgysylltu mewn prosiect penodol
- Y rhwystrau posib a all atal pobl rhag ymgysylltu a sut i’w goresgyn
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Rheolwyr a staff rheng flaen sydd am ddeall sut i gynllunio rhaglen ymgysylltu â’r cyhoedd.
Sgiliau a thechnegau i ennyn diddordeb y cyhoedd (Ennyn diddordeb y cyhoedd: Modiwl dau)
Amcanion
Bydd y cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth i chi o’r sgiliau a’r technegau i gynnal rhaglen ymgysylltu â’r cyhoedd.
Cynnwys
Mae’r cwrs ymarferol iawn hwn yn canolbwyntio ar y sgiliau, yr offer a’r technegau a fydd o gymorth i ymarferydd unigol gynnal rhaglen ymgysylltu effeithiol. Mae’r cwrs yn ystyried rhai o sgiliau a rhinweddau allweddol hwylusydd – gan gynnwys sgiliau holi.
Mae’n darparu trosolwg o ddulliau ymgysylltu a all fod yn addas ar gyfer gwahanol lefelau ymgysylltu ac yna’n canolbwyntio ar dechnegau sy’n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer ymgynghori.
Mae’r cwrs yn cyflwyno Technegau Cyfranogol i ymgysylltu â’r cyhoedd. Byddwch yn ymarfer sawl un o’r technegau syml, synhwyrol a hynod effeithiol hyn sydd wedi’u profi i fod yn ddibynadwy. Bydd pob cyfranogwr yn cael llawlyfr yn disgrifio offer defnyddiol ychwanegol.
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn deall:
- Rôl yr hwylusydd wrth ennyn diddordeb y cyhoedd
- Sut i ddefnyddio llu o wahanol dechnegau cyfranogol a phryd i’w defnyddio
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Rheolwyr a staff rheng flaen sydd am ddeall y sgiliau a’r technegau a ddefnyddir i ennyn diddordeb y cyhoedd.
Sut i ddefnyddio data o broses ymgynghori ac ymgysylltu â’r cyhoedd (Ennyn diddordeb y cyhoedd: Modiwl tri)
Amcanion
Bydd y cwrs hwn yn edrych ar ddefnyddio techneg gyfranogol i ddadansoddi data ansoddol o broses ymgynghori ac i lunio casgliadau ac argymhellion ystyrlon o’r dadansoddiad hwnnw. Mae hefyd yn edrych ar ffyrdd o roi adborth ar ôl ymgynghori.
Cynnwys
Mae ymgynghoriadau yn casglu barn y cyhoedd – ond yn aml y rhan bwysicaf o’r broses yw’r peth olaf a ystyrir. Nod y modiwl hwn yw galluogi i gyfranogwyr ddadansoddi’r data ansoddol a gasglir mewn ymarferion ymgynghori a dod i gasgliadau ystyrlon – a chynnwys y cyhoedd yn y canfyddiadau.
Mae’r cwrs hwn yn egluro proses dadansoddi data ansoddol – mae’n cyflwyno techneg gyfranogol i ddadansoddi’r math hwn o wybodaeth ac yn awgrymu proses systematig i lunio casgliadau a gwneud argymhellion. Byddwch wedyn yn rhoi’r prosesau hyn ar waith ar gyfer set o nodiadau o ymarfer ymgynghori, gan lunio casgliadau ohonynt ac argymell camau i’w cymryd yn y dyfodol yn seiliedig ar unrhyw gasgliadau.
Mae rhan olaf y modiwl hwn yn ystyried pam mae’n bwysig rhoi adborth ar ôl ymarfer ymgynghori ac yn edrych ar gryfderau a gwendidau gwahanol ffyrdd o roi adborth.
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn deall:
- Sut i gasglu a defnyddio data ansoddol dilys
- Sut i lunio casgliadau ar ôl dadansoddi data ansoddol
- Canfod a gwerthuso dulliau i roi adborth i’r cyhoedd
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Rheolwyr a staff rheng flaen sydd am ddeall sut i ddefnyddio data ansoddol o ymgynghoriadau â’r cyhoedd.
Sut i sicrhau’r arfer gorau wrth ennyn diddordeb y cyhoedd (Ennyn diddordeb y cyhoedd: Modiwl pedwar)
Amcanion
Bydd y cwrs hwn yn ystyried sut i sicrhau bod eich arfer ymgysylltu â’r cyhoedd yn cael ei ddylunio’n effeithiol i wneud gwahaniaeth
Cynnwys
Mae modiwl olaf ein cwrs ennyn diddordeb y cyhoedd yn darparu fframwaith ymgysylltu damcaniaethol sy’n rhoi’r holl bethau a ddysgwyd yn y tri modiwl blaenorol yn eu cyd-destun. Mae’n edrych ar wahanol fodelau ymgysylltu ac yn amlygu egwyddorion allweddol arfer da wrth ennyn diddordeb y cyhoedd ynghyd â chamgymeriadau cyffredin.
Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddefnyddio Pecyn Cymorth Gwerthuso Cyfranogaeth Cymru i werthuso a gwella’ch arfer ymgysylltu.
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn deall:
- Y gwahanol fodelau ymgysylltu ac arfer da yn y maes
- Pryd y gall ymgynghori fod yn briodol a phryd y gall fod yn amhriodol
- Sut i wella’ch proses ymgysylltu
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Rheolwyr a staff rheng flaen sydd am ddeall sut i sicrhau y cynhelir eu proses ymgysylltu â’r cyhoedd yn effeithiol.
Gofynion y cwrs
Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y profiad gorau ar ein cyrsiau, gofynnwn y canlynol ohonoch chi;
- Ymrwymwch i fynychu holl hyd yr hyfforddiant
- Profwch eich mynediad i Zoom
- Bydd yr hyfforddiant yn dechrau’n brydlon, cyrhaeddwch 10 munud cyn yr amser dechrau, oherwydd mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael eu gadael i mewn
- Mae ein cyrsiau’n rhyngweithiol a chyfranogol a gofynnwn, lle’n bosibl, i’r holl ddysgwyr gael eu camerâu arno a chymryd rhan drwy’r cyfleusterau microffon a sgwrsio
- Rhowch wybod i ni wrth gadw’ch lle os oes gennych chi unrhyw ofynion penodol, e.e. dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
- Bydd copi dall o’r cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau yn cael ei anfon atoch gan bookings@wcva.cymru, gwiriwch eich ffolder e-bost sothach os nad ydych chi wedi’u derbyn wythnos cyn yr hyfforddiant (unrhyw broblemau, rhowch wybod i ni)
- Os na allwch chi fynychu, anfonwch e-bost at training@wcva.cymru (gweler ein polisi canslo)
I gael eich ychwanegu at restr aros cwrs neu weminar cliciwch yma.
Gellir cyflwyno pob un o’n cyrsiau mewn modd pwrpasol wedi’u teilwra er mwyn diwallu anghenion eich mudiad. Llenwch ein ffurflen gais am hyfforddiant pwrpasol ac fe wnaiff aelod o’n tîm ni’n cysylltu â chi.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiad arall, anfonwch e-bost at training@wcva.cymru. Gallwch chi gofrestru ar ein rhestr bostio i dderbyn diweddariadau bob wythnos/mis.