29 Mehefin & 6 Gorffennaf 2022 | 10 am – 1 pm
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
Amcanion
Datblygu sgiliau i greu a rhoi cyflwyniadau a fydd yn gwneud gwahaniaeth.
Cynnwys
Rydym ni gyd wedi eistedd drwy gyfarfod a’n rhoi i gysgu gan sleid ar ôl sleid, heb ymdrech o gwbl i ennyn ein diddordeb. Ond i gyfleu’ch syniadau yn effeithiol, mae angen i’ch cyflwyniadau aros yn y cof – boed hynny mewn cyfarfod tîm neu wrth gyflwyno cynnig am gyllid.
Bydd y cwrs undydd hwn yn rhoi hwb i’ch gallu i ddylunio cyflwyniadau effeithiol a diddorol, gan hefyd feithrin yr hyder i’w cyflwyno o flaen cynulleidfa. Byddwn yn ymdrin â dylunio a rhoi cyflwyniadau rhagorol.
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y sesiwn byddwch yn gallu:
- Adnabod a defnyddio elfennau allweddol cyflwyniad rhagorol
- Bod yn fwy hyderus yn y sgiliau angenrheidiol i roi cyflwyniadau rhagorol
- Dylunio cymhorthion gweledol yn well ar gyfer cyflwyniadau
Ar gyfer pwy mae’r cwrs
Mae’r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sy’n rhoi cyflwyniadau o unrhyw fath.
Gellir cyflwyno ein holl gyrsiau wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer anghenion eich mudiad. Cysylltwch os hoffech drafod hyn ymhellach.